Dyma Catherine, aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future o Brosiect Green Academies yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau’r Urban Rangers.
Mae’r Urban Rangers yn grŵp o ieuenctid 14 i 20 oed sy’n cyfarfod ddwywaith yr wythnos ym Mharc Morden Hall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Maent yn dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol ac yn dilyn cyrsiau wedi’u hachredu. Mae’n rhan o brosiect Our Bright Future yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o’r enw Green Academies.
Gwahoddwyd yr Urban Rangers i Ffair Ddinesig Parciau Cenedlaethol Llundain a oedd yn rhoi cychwyn i Wythnos y Parciau Cenedlaethol ddydd Sadwrn 21ain Gorffennaf. Yn cael ei threfnu am y tro cyntaf erioed, a hynny gan y National Park City Foundation, roedd yn ddigwyddiad am ddim gyda bysgwyr, arddangosfeydd celf, teithiau cerdded, picnics a mwy.
Roedden ni’n rhan o’r Ffair Gwirfoddoli a Phrofiadau oedd yn dod â grwpiau ac ymgyrchwyr at ei gilydd a phawb yn ceisio gwneud gwahaniaeth ar draws Llundain. Gwahoddwyd yr Urban Rangers i wneud cyflwyniad ar sut rydym wedi perchnogi ein gofod gwyrdd lleol a dod yn eiriolwyr ar ran yr amgylchedd. Buom yn siarad am pam rydym yn gwirfoddoli ac yn annog eraill i wirfoddoli hefyd.
Mae’r London National Park City yn fudiad i wella bywyd yn Llundain. Mae’n gweithio gyda thrigolion y ddinas, ymwelwyr a phartneriaid i helpu pobl i fwynhau awyr agored gwych Llundain, gwneud y ddinas yn wyrddach ac iachach a gwylltach ac, wrth gwrs, hybu hunaniaeth Llundain fel y Ddinas Parc Cenedlaethol gyntaf.
Mae’r Urban Rangers wedi gwneud y ddinas ychydig yn wylltach eisoes drwy droi maes parcio gwag yn ardd gymunedol. Rydym wedi annog trigolion lleol i gymryd rhan a daeth mwy na 1,700 o bobl i’n digwyddiad Fun Palace!
Ein nod ni yw dal ati i estyn allan at y gymuned leol drwy gynnal mwy o gyflwyniadau a digwyddiadau am sut gall pobl ofalu am eu parciau a’u gofod gwyrdd. Mae’r Urban Rangers wedi’u lleoli ym Mharc Morden Hall ac mae cymaint o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, felly rydym yn hybu’r rhain i’r trigolion hefyd.
Ar hyn o bryd ym mharc Morden Hall rydym yn cynnal prosiect am geffylau trymion. Rydym wedi bod yn dysgu am ddulliau traddodiadol o droi tir gan ddefnyddio ceffylau gwedd gan fod hynny’n well ar gyfer aildyfiant ac yn cynyddu’r boblogaeth o rywogaethau o blanhigion. Hefyd rydym wedi bod yn gweithio yn Willow Wood, gan ei gwneud yn oleuach ar gyfer ymwelwyr drwy deneuo’r canopi. Rydw i’n mwynhau’r gweithgareddau ac yn edrych ymlaen at gynllunio’r digwyddiad Fun Palace nesaf sy’n cael ei gynnal ym mis Hydref. Mae’r trigolion lleol wedi dechrau addurno’r baneri ar gyfer y digwyddiad yn barod!
Mwy o wybodaeth am yr Urban Rangers ym Mharc Morden Hall ar gael yma. Mae Prosiectau Green Academies eraill yn cael eu cynnal yn Birmingham, Manceinion Fwyaf, y Gogledd Ddwyrain a Wrecsam.