Mae Megan Humphreys (chwith) wedi cwblhau 12 mis yn ddiweddar gyda phrosiect Tomorrow’s Natural Leaders, sy’n cael ei gyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog. Mae’n dweud wrthym ni sut aeth hi ati i newid byd, o fod yn gweithio ym maes adwerthu i ddechrau baeddu ei dwylo.
Fe ddois i i wybod am brosiect Tomorrow’s Natural Leaders (TNL) wrth weithio mewn swydd ddiflas yn y byd adwerthu yn ystod y cyfnod anochel hwnnw ar ôl bod yn y brifysgol pan rydych chi’n wynebu’r argyfwng ‘be-yn-y-byd-ydw-i’n-wneud-efo-fy-mywyd?’. O edrych yn ôl, rydw i’n gwybod fy mod i wedi anfon fy nghais am fy mod i’n dyheu am newid. Roedd treulio dyddiau’n plygu crysau T yn bentyrrau perffaith o sgwariau ac yn gwenu’n ffug nes bod fy wyneb i’n brifo wedi gwneud i mi gredu mai myth creulon oedd y gred y gallai unrhyw berson 20 oed a rhywbeth ddod o hyd i waith oedd wir yn rhoi boddhad.
Roeddwn i wedi graddio o brifysgol dda gyda gradd weddol dda. Roedd hyn yn dilyn tair blynedd anodd yn dioddef o iselder a phryder, gyda fy addysg i’n dod yn ail yn aml wrth i mi gael anhawster gyda byw bywyd bob dydd. Felly roedd prosiect TNL yn teimlo fel chwa o awyr iach. Roedd yn gyfle prin ac annhebygol i mi, rhywbeth cwbl wahanol i bopeth roeddwn i wedi’i brofi o’r blaen yng nghanol academia diflas neu brysurdeb di-stop bywyd y ddinas. Roedd yn gyfle nid yn unig am newid lle, ond hefyd yn gyfle i gael fy amgylchynu gan yr hapusrwydd dibynadwy oeddwn i’n gyfarwydd ag o pan yn blentyn, pan oedd byd natur yn lle am gysur a diddanwch.
Ar ôl graddio gyda gradd mewn Saesneg Llenyddiaeth, fe ddois i’n rhan o’r prosiect yn edrych yn wahanol ar fywyd o gymharu â’r rhai ar lwybrau gyrfaol confensiynol. Roedd fy nghefndir anwyddonol ac anamgylcheddol i, ochr yn ochr â gwybodaeth gywilyddus o wael am fywyd gwyllt y DU, yn golygu nad oedd fy nghyflwyno i i’r sgwrs yn hwylus iawn. Ond er mai graddol oedd fy nghynnydd i fel rhan o brosiect TNL, roedd yn rhoi llawer o foddhad i mi. Roeddwn i’n amau fy hun gymaint ag erioed, ond roedd pob brwydr yn cynnig rhyw fath o foddhad. Nid dim ond oer a blinedig oedd ymlwybro drwy fwd a chenllysg ar ein ffordd i warchodfa neu i dorri prysgwydd mewn cawodydd trymion o law, ond cadarnhaol mewn rhyw ffordd, ac yn gwneud i mi deimlo’n well. Ar foreau cynnar yn y gaeaf, roeddwn i’n gallu bod mewn tymer ddrwg ac yn cael trafferth agor fy llygaid, ond roedd y rhain yn eiliadau gwerthfawr na fyddwn i wedi gallu eu dychmygu wrth gymudo i’r gwaith ddim ond flwyddyn ynghynt; cipolwg ar iwrch yn sgrialu drwy wrych, neu fflach o las y dorlan yn deifio i mewn i afon.
Rydw i wastad wedi teimlo bod byd natur yn rhywbeth cynhwysol a chynhyrfus, rhywbeth i’w deimlo yn ogystal â’i ddeall, ac yn ystod fy amser gyda phrosiect TNL roeddwn i eisiau rhannu’r dull yma o weithio gydag eraill. Gan weithio ochr yn ochr â fy ffrind Helen, fe wnaethon ni geisio pwysleisio pa mor hanfodol all byd natur fod o ran helpu lles y meddwl, a cheisio tynnu sylw at werth cynhenid cyswllt personol ac emosiynol â’r byd o’n cwmpas ni. Fel rhan o ymgyrch oedd yn pwysleisio pwysigrwydd byd natur i les, aethom ati i gymryd camau i gysylltu meddygfeydd a chanolfannau therapi’r GIG â gweithgarwch gwyrdd a hybu ecotherapi fel cymorth ataliol a rhagnodol i ddelio â salwch meddwl.
Yn rhyfedd iawn, fe aeth y prosiect â fi’n ôl i’r un meddygfeydd a’r un rhaglenni therapi ag yr oeddwn i wedi eu mynychu fel merch ifanc bryderus yn fy arddegau yn chwilio am gymorth. Nawr, flynyddoedd yn ddiweddarach, er dal yn bryderus ac yn ifanc, rydw i’n edrych yn ôl ar y camau rydw i wedi gallu eu cymryd eleni gan deimlo cryn foddhad. Mae fy mlwyddyn i wedi bod yn brofiad dysgu pwysig i mi ac er fy mod i’n falch o’r cadernid rydw i wedi’i feithrin ar foreau gaeafol oer, a fy nghynnydd o fod yn ddechreuwr amhrofiadol iawn i naturiaethwr addawol, yr  hyn mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog wedi’i roi i mi yn fwy na dim, er ei fod yn swnio fel cliche, yw gwneud i mi gredu yn fy llais fy hun ac yn fy ngallu fy hun. Dyma brofiad hapus ac mae prosiect TNL nid yn unig wedi bod yn ddihangfa i mi ond hefyd yn rhywbeth sydd wedi galluogi i mi ailddarganfod yr hyder a’r hunan-sicrwydd yr oeddwn i wir eu hangen.
Mae Megan wedi cwblhau profiad gwaith yn ddiweddar gyda thîm Our Bright Future. Roedd yn grêt dysgu mwy am ei gweledigaeth ar gyfer argaeledd eang  ecotherapi.