Y Rheolwr Polisi ac Ymgyrchoedd, Roberta Antonaci, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch #owningit Our Bright Future.
Gyda 31 o brosiectau’n cael eu cynnal ledled y DU, mae Our Bright Future yn creu ac yn gwella llawer o lefydd ac yn newid bywydau llawer o bobl ifanc ar draws y pedair gwlad. Rydyn ni wedi cael mwy nag 80,000 o bobl ifanc i gymryd rhan eisoes, gan chwalu ein targed gwreiddiol o 60,000 o bobl ifanc yn llwyr.
Mae wedi bod yn flwyddyn ers lansiad #owningit – ein hymgyrch i ddangos y cysylltiad anorfod rhwng dyfodol pobl ifanc a dyfodol yr amgylchedd ac i gefnogi newid positif sy’n cael ei sbarduno gan bobl ifanc. Nawr ein bod ni ar fin lansio ail gam yr ymgyrch, rydw i’n teimlo ei fod yn amser perffaith i rannu rhai o’n llwyddiannau a rhoi blas i chi ar y cynlluniau cyffrous sydd gennym ni ar gyfer y dyfodol.
Yr antur fwyaf rhyfeddol eleni oedd casglu mwy na 700 o syniadau gan bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn ystod wyth digwyddiad ac ymchwil dan arweiniad ieuenctid, yn cynnwys mwy na 300 o bobl ledled y DU. Fe wnaethon ni ofyn iddyn nhw: “Pe baech chi’n gallu newid un peth i chi a’r amgylchedd, beth fyddai hwnnw?” Yr ateb oedd eu bod eisiau’r canlynol:
  • treulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano
  • help gyda llwybrau i’r sector amgylcheddol, cefnogaeth i fentrau cymdeithasol amgylcheddol a chydnabod gwerth gwirfoddoli
  • mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a’r amgylchedd gan y Llywodraeth, cyflogwyr, elusennau, busnesau ac ysgolion – gan eu gweld fel adnodd i’w warchod a’i wella
 Byddwn yn datblygu’r tair elfen yma ac yn eu defnyddio i herio pobl sy’n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys y Llywodraeth, y sector preifat a’r trydydd sector, i feddwl am bobl ifanc a’r amgylchedd mewn ffordd wahanol. Mae cyfnod newydd cyffrous ar y gorwel i #owningit. Nawr ein bod ni’n gwybod pa fath o newid rydyn ni eisiau ei wneud, sut mae mynd ati i wneud hynny? Rydyn ni’n feiddgar iawn. Nod Our Bright Future yw cael ei arwain gan ieuenctid, felly rydw i wedi agor trafodaeth gyda phobl ifanc y rhaglen am sut i droi’r tri maes allweddol yma o newid yn realiti. Bydd y Fforwm Ieuenctid blynyddol sy’n cyfarfod yn gynnar yn 2019 yn canolbwyntio ar hyn – felly cadwch lygad am fwy o fanylion!
Rydyn ni hefyd yn falch o fod wedi cyfrannu at waith hanfodol y Llywodraeth drwy gyswllt gweithredol pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn y rhaglen. Er enghraifft, fe wnaethon ni’r canlynol:
  • cyfrannu at Gynllun 25 Mlynedd yr Amgylchedd gan y Llywodraeth. O ganlyniad, mae gan y cynllun ffocws clir ar bobl ifanc ac, ar hyn o bryd, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Defra a grŵp o sefydliadau i rymuso mwy o bobl ifanc i weithredu dros yr amgylchedd.
  • cymryd rhan mewn ymchwil i ymchwilio i gymhelliant pobl ifanc sy’n gwirfoddoli’n amgylcheddol. Bydd y gwaith ymchwil yma’n helpu gwaith Defra i gefnogi mwy o blant a phobl ifanc o bob cefndir i ymwneud â byd natur a gwella’r amgylchedd.
  • ymateb i adolygiad y Gymdeithas Sifil a dynnodd sylw at bwysigrwydd mentrau fel Our Bright Future o ran dod â’r sectorau amgylcheddol ac ieuenctid at ei gilydd, gan ddatblygu dulliau o weithredu i rymuso pobl ifanc i arwain newid amgylcheddol.
  • ymateb i Adolygiad Gweithredu Cymdeithasol Llawn Amser y Llywodraeth. Gan mai arian yw un o’r prif rwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag cymryd rhan, fe wnaethon ni ddweud bod angen mwy o arian er mwyn galluogi cyfleoedd gwirfoddoli llawn amser i bobl ifanc sydd ag angen ychwanegol am fwrsarïau, er mwyn cefnogi’r rhai sy’n ddifreintiedig.
Mae mor bwysig creu gwaddol sy’n adlewyrchu ehangder y rhaglen, gan ymestyn y tu hwnt i San Steffan i’r gwledydd datganoledig. Dyma pam rydw i’n gyffrous ein bod ni yng Nghymru’n trefnu ymweliad i 15 o bobl ifanc â Llywodraeth Cymru, i ddysgu mwy am lunio polisïau ac i gyfleu ein neges. Y peth gwych am y digwyddiad yma ydi bod pobl ifanc wedi bod yn rhan allweddol o’i gynllunio a’i gyflwyno o’r diwrnod cyntaf.
Yn olaf, ond nid y lleiaf, rydyn ni’n cael blas ar chwyldro mewnol ein hunain. Dyma sut:
  • mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi gwahodd dau gynrychiolydd ifanc o Our Bright Future i gyfarfod allweddol i drafod cyllid yn y dyfodol i gefnogi gwaith amgylcheddol.
  • siaradodd aelod ifanc o’n grŵp llywio ni mewn cynhadledd ymgyrchu a drefnwyd gan yr Ymddiriedolaethau Natur. Taniodd y gynulleidfa gyda’i brwdfrydedd, gan siarad, ymhlith pethau eraill, am lygredd plastig. Roedd hwn yn gyfle gwych i gael persbectif ffres gan berson ifanc am sut gall yr Ymddiriedolaethau weithio’n well gyda phobl ifanc pan mae angen sbarduno newid.
  • mae gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog ac Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog ymddiriedolwyr ifanc ac mae llawer o’r sefydliadau sy’n rhan o Our Bright Future yn ailfeddwl am y ffordd maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc.
Rydw i’n credu’n gryf y dylai lleisiau pobl ifanc fod yn rhan ganolog o’r prosesau gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith ar eu bywydau ac ar yr amgylchedd. Rydyn ni wedi cyflawni cymaint yn ystod blwyddyn gyntaf ymgyrch #owningit ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at beth fydd yn dod nesaf!