Chidubem Nwabufo, sylfaenydd Impact Fashion, sy’n trafod sut mae technoleg wedi siapio effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol negyddol y diwydiant ffasiwn a sut gallai arloesi o’r newydd mewn technoleg fynd i’r afael â’r problemau yma.
Cafodd Impact Fashion £10,000 o gyllid gan brosiect Our Bright Future, The Environment Now.
Mae technoleg wedi dod yn rhan greiddiol o sut rydyn ni’n rhyngweithio â dillad. Rydyn ni’n gallu siopa’n hawdd ar ein ffôn, cael ysbrydoliaeth ddiddiwedd o ran steil gan ein ffrindiau a phobl ddylanwadol ar Instagram a dysgu ‘pwy wnaeth fy nillad i’ mewn clic neu ddau. Mae’r newidiadau yma’n ailsiapio’r diwydiant ffasiwn heddiw. Wrth i ni ffafrio siopa ar-lein mae llai o bobl yn mynd i mewn i siopau. Mae’r dirywiad yma wedi arwain at adwerthwyr fel House of Fraser yn lleihau nifer y siopau yn eu portffolio. Yn y cyfamser, mae poblogrwydd Instagram (ac apiau tebyg) yn gyrru pobl ifanc i siopa’n amlach i osgoi’r trosedd o gael tynnu eu llun yn yr un wisg ddwywaith. Mae’r cynnydd yma mewn prynu wedi cael ei gysylltu â dillad fel y ffrwd wastraff sy’n tyfu gyflymaf yn y DU yn ystod y degawd diwethaf.
Does dim amheuaeth bod technoleg yn chwyldroi’r byd ffasiwn fel rydyn ni’n ei adnabod; gan ddarparu cyfleoedd diddiwedd i ddefnyddwyr a gwneuthurwyr dillad.
Gan fod gen i ddiddordeb yn effaith ffasiwn ar gymdeithas a’r amgylchedd, fe wnaeth gweld y pŵer sydd gan dechnoleg wneud i mi feddwl sut gellid ei defnyddio i gael dylanwad positif ar y diwydiant ffasiwn. A dyma sefydlu Impact Fashion, cwmni technoleg ffasiwn sy’n canolbwyntio ar drawsnewid sut mae dillad yn cael eu defnyddio a’u taflu, diolch i gyllid gan The Environment Now (cydweithrediad rhwng O2, Our Bright Future a’r National Youth Agency).
Rydyn ni’n defnyddio technoleg i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr wneud lles gyda’u wardrob a’u dillad. Drwy ddeall bod diffyg ymwybyddiaeth o ble a pha ddillad i’w hailgylchu, datblygwyd ein cynnyrch cyntaf. Ap symudol ydi hwn sy’n dangos i ddefnyddwyr ble mae eu safleoedd ailgylchu dillad agosaf ac mae’n darparu gwybodaeth am y broses o ailgylchu dillad. Gyda’r ap, rydyn ni eisiau gwneud y broses o ailgylchu dillad yn haws a helpu i ddargyfeirio cyfran o’r 300,000 o dunelli o ddillad sy’n cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn ym Mhrydain. Hyd yma, mae’r ymateb i’n gwaith ni wedi bod yn bositif; rydyn ni wedi sicrhau cyllid, creu partneriaethau cadarn a lansio’n swyddogol yn y storfa apiau gyda chynnydd graddol mewn defnyddwyr newydd.
I gyflawni hyn mae sawl rhwystr i’w oresgyn. Gan fod cynaliadwyedd yn y byd ffasiwn yn gymharol newydd, mae gwybodaeth gyfyngedig o hyd am effaith cael gwared ar ddillad yn amhriodol. Mae hyn yn golygu bod nifer y bobl sy’n ymwneud â ni’n gyfyngedig i griw bychan o bobl wybodus. I fynd i’r afael â hyn, rydyn ni’n cynnal ac yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ac yn ceisio denu ein cynulleidfa darged drwy gyfryngau maen nhw’n eu defnyddio eisoes.  Mae’r sector ailgylchu’n her arall; mae wedi sefydlu’n dda ac felly’n amharod i arloesi weithiau.
Mae wythnos Green Great Britain Week yn tynnu sylw at y camau gweithredu y mae cwmnïau ac unigolion yn eu cymryd er mwyn hwyluso twf glân a dyma pam roeddwn i eisiau cymryd rhan.
Drwy rannu’r hyn rydyn ni yn Impact Fashion yn ei wneud, pwy a ŵyr beth allwn ni ei sbarduno?