Ym mis Awst daeth Milly Spencer yn Intern Our Bright Future yn Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerloyw. 
Cyn i ni ddechrau, beth am gyflynwo dy hun! Sut ddaeth Our Bright Future yn rhan o dy fywyd di?
Fy enw i ydi Milly ac rydw i’n dod o Fanceinion. Fe wnes i symud yma (i Sir Gaerloyw) i astudio. Yn ddiweddar rydw i wedi graddio mewn Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac rydw i newydd ddechrau ar yr interniaeth yma gyda phrosiect Our Bright Future Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerloyw. Cyn Our Bright Future, roeddwn i wedi bod yn gwirfoddoli gyda The Conservation Volunteers (TCV), yn gwneud tasgau cadwraeth a garddio ac roeddwn i wir yn mwynhau. Wrth chwilio am fy ‘swydd ddelfrydol’, fe ddechreuais i boeni nad oedd llawer o swyddi perthnasol ar gael, ac a bod yn onest, roeddwn i’n dechrau amau fy newis o radd!
Fel mae’n digwydd, fe wnes i gwis swyddi ac fe wnaeth y canlyniad fy nghyfeirio i at waith prosiect cymunedol. Yn fuan iawn fe sylweddolais i faint roeddwn i’n hoffi gwirfoddoli gyda TCV a faint roeddwn i’n hoffi cael mwy o aelodau’r gymuned i ymwneud â gofalu am eu gofod gwyrdd lleol, yn enwedig o gofio faint mae pobl yn gallu elwa o fod y tu allan. Mae Our Bright Future yn gweithio gyda chymunedau i wella amgylcheddau trefol i bobl a bywyd gwyllt, felly fe wnes i benderfynu mai hon oedd y swydd ddelfrydol i mi!
Felly beth mae’r prosiect yn ei gynnwys?
Nod y prosiect penodol yma ydi cael pobl ifanc i gydweithio mewn grwpiau i wella gofod gwyrdd mewn ardaloedd tai cymdeithasol. Mae hyn nid yn unig yn eu helpu i ddysgu sgiliau newydd, ond hefyd yn gwella’r ardal leol i’r trigolion, ymwelwyr a bywyd gwyllt.
Gall ieuenctid 16 i 24 oed o unrhyw gefndir gymryd rhan yn y prosiect yma. Mae’n adnodd rhagorol i wella sgiliau cymdeithasol a sicrhau gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd. Mae cyfranogwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel magu hyder, sy’n gwella eu cyflogadwyedd.
Mae’r prosiect ar dri safle. Ym mhob un, mae darn o laswellt wedi cael ei drawsnewid yn erddi cyfeillgar i fywyd gwyllt drwy greu potiau plannu, ardaloedd compostio a thai anifeiliaid – perffaith i famaliaid, adar a phryfed.
Sut mae diwrnod nodweddiadol yn gweithio ar y prosiect?
Mae fy ngwaith i’n eithaf amrywiol a dweud y gwir. Rydw i’n gweithio yn y swyddfa yn Robinswood Hill, yn gwneud gwaith ymchwil i ymgyrchoedd amrywiol. Un diwrnod rydw i’n edrych ar hadau a blodau ac yn casglu gwybodaeth a’r diwrnod wedyn rydw i’n cynllunio pecyn hadau neu’n cael dyfyniadau ar gyfer deunyddiau cyfathrebu. Weithiau fe fydda’ i’n mynd i sesiynau cymunedol gyda rheolwr y prosiect ac yn helpu gyda’r garddio.
Fedri di ddweud beth ydi dy hoff agwedd ar y prosiect hyd yma?
Y peth gorau o ddigon ydi mynd i’r gerddi a gweithio gyda chyfranogwyr y prosiect, mae’n grêt eu gweld nhw’n cymryd rhan, yn dysgu sgiliau newydd ac yn falch o’u cyflawniadau.
Pam mae hyn i gyd yn bwysig? 
Mae’r prosiect yn dysgu sgiliau ymarferol i bobl ifanc y gallan nhw eu defnyddio yn eu gerddi eu hunain. O ganlyniad fe fyddan nhw’n fwy medrus a hyderus i ddweud wrth eraill am arddio er lles bywyd gwyllt.
Mae’n amlwg dy fod di wrth dy fodd yn dy waith, felly beth am ei werthu i ni? Pam ddylai mwy o bobl ifanc gymryd rhan gydag Our Bright Future? 
Drwy gymryd rhan gydag Our Bright Future, rydych chi’n cael cyfarfod pobl newydd gyda diddordebau tebyg i chi! Bod tu allan, cael digon o awyr iach. Mae’n braf iawn ac yn ffordd grêt i wella eich lles.
Mae am ddim ac rydych chi’n gallu ennill AQA mewn Rheoli Cynefinoedd ac Ymgysylltu Cymunedol. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddeunyddiau ailgylchu, gan ddefnyddio paledi pren, pibellau a chytiau ieir hyd yn oed i wneud cartrefi ar gyfer bywyd gwyllt. Mae pob gweithgaredd yn gwella cynefinoedd trefol. Fe fyddwch chi’n cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau lleol, o wenoliaid y bondo i ddraenogod a gwenyn unigol.
Mae tri sesiwn Our Bright Future yn cael eu cyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerloyw ac Ymddiriedolaeth Natur Avon ar gyfer ieuenctid 16 i 24 oed. Ymunwch â ni:
  • Bob dydd Mawrth, 2pm-4.30pm, yng Ngardd Hyfforddi Our Bright Future, 101 Queens Road, Priors Park, Tewkesbury.
  • Bob dydd Mercher, 2pm-4.30pm, yng Nghanolfan Ieuenctid Whaddon, Dart Road, Cheltenham.
  • Bob dydd Gwener, 1.30pm-4.30pm, yng Nghanolfan Redwell, Redwell Road, Caerloyw.
Mwy o wybodaeth am Our Bright Future Avon a Sir Gaerloyw yma.