Yn 2008, gosododd y DU dargedau uchelgeisiol ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. I nodi’r garreg filltir hon, mae dau o brosiectau The Environment Now wedi rhannu eu meddyliau a dangos sut mae eu busnesau’n gwneud gwahaniaeth.
Mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd un hances bapur ar y tro!
Sefydlwyd Twipes yn 2015 gan y biocemegydd Elle a’r entrepreneur Al er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o hancesi papur gwlyb nad oes posib eu rhoi i lawr y toiled ac mae wedi cael cefnogaeth gan The Environment Now.
Roedd 2008 yn flwyddyn o sawl cyflawniad byd-eang pwysig. Daeth yr Arlywydd Obama yn Arlywydd du cyntaf UDA, croesawdd Tsieina y Gemau Olympaidd ac wrth gwrs, fe gamodd Britney yn ôl ar y llwyfan.
Ond un o gerrig milltir mwyaf 2008 yn y DU oedd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd. Dyma ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sy’n gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. I ddathlu degfed pen blwydd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd, ac oherwydd ein bod yn caru ein planed, roedd y tîm yma yn Twipes yn meddwl y byddem yn manteisio ar y cyfle yma i siarad ynghylch pam fod gennym agwedd amgylcheddol bositif ar gyfer y dyfodol!
Mae’r Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd wedi arwain at amrywiaeth eang o feysydd sy’n ymwneud â hybu gweithredu er lles yr hinsawdd yn ystod y degawd diwethaf. Rydyn ni wedi gweld hyn yn uniongyrchol drwy fod yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd Cyllid Gwyrdd fis Gorffennaf diwethaf – lle’r oedd y sector cyllid yn mynd ati i ddatgloi cyllid ar gyfer seilwaith gwyrdd – a hefyd wrth gael ein hanrhydeddu yng Ngwobrau Dinasoedd Cynaliadwy LSX – lle’r oedd cewri peirianneg fel Siemens yn gwneud eu rhan dros ein planed ni.
Ond ni ddylai’r DU orffwys ar ei rhwyfau. A hithau’n ddegfed pen blwydd y Ddeddf, gallai’r llywodraeth ddefnyddio’r cyfle hwn i gyflwyno achos cryf dros wthio ein partneriaid byd-eang i ymuno â ni i arwain yr ymgyrch tuag at ddyfodol carbon isel.
Gall pob ifanc hefyd wthio am well dyfodol. Mae tîm Twipes wedi ceisio gwneud ein rhan dros y blaned!
Daeth Twipes i fodolaeth fel syniad labordy yn ôl yn 2015, oherwydd ar y pryd nid oedd unrhyw hancesi papur gwlyb oedd posib eu rhoi i lawr y toiled ar y farchnad. Rydyn ni wedi datblygu hancesi papur o’r fath sy’n dadelfennu yn y dŵr ac sy’n biobydradwy, sy’n golygu dim mwy o fryniau braster, dim mwy o hancesi papur ar welyau afonydd a dim mwy o ficro-blastigau yn ein cefnforoedd ni!
Mae pwysigrwydd The Environment Now yn ein helpu ni i gyflawni hyn wedi bod yn amhrisiadwy. Mae The Environment Now yn rhaglen o 50 o brosiectau gan bobl ifanc, ar y cyd â Go Think Big yr O2, The National Youth Agency ac Our Bright Future. Mae’r rhaglen wedi helpu gyda phopeth o gyllido Twipes i arweiniad gyda Twipes a hyd yn oed ein cyflwyno ni i bartneriaid cydweithredu ar gyfer y dyfodol.
Mae cefnogaeth The Environment Now wir yn rhoi gobaith i ni bod posib i ni ysbrydoli pobl ifanc eraill fel ni i ddilyn eu breuddwydion a datblygu eu syniadau, sy’n gallu arwain i gyd at ddyfodol mwy cynaliadwy. Yr heriau amgylcheddol nesaf yn effeithio ar y byd, ar gyfer y degawd nesaf efallai, fydd lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, cael gwared ar blastig (yn enwedig micro-blastigau) o’n moroedd ni a mynd i’r afael â llygredd yr aer.
Ac mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn ystod y degawd diwethaf, fel y nodir gan ddegfed pen blwydd y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd, yn golygu y gallwn ni, gyda’n gilydd, ar draws pob sector a diwydiant, ar draws pob oedran, drwy gydweithredu fel rhwng Twipes a The Environment Now, gyflawni ein nodau.
Oes posib i lysiau helpu i atal newid yn yr hinsawdd?                   
Sefydlwyd LettUs Grow yn 2015 gan dri a raddiodd o Brifysgol Bryste. Maen nhw’n dylunio technoleg rheoli a dyfrio aeroponig ar gyfer ffermydd dan do ac wedi cael cefnogaeth gan y rhaglen The Environment Now.
Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Yn anffodus, daw’r pen blwydd yma’n dynn ar sodlau adroddiad trychinebus Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd oedd yn nodi bod cynnydd o 1.5C yn anochel bellach a bod angen gweithredu ar fyrder er mwyn atal y tymheredd rhag codi ymhellach.
Mae cynhesu byd-eang ac allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ddwy broblem bendant i’n cenhedlaeth ni. Mae amaethyddiaeth yn rhan fawr o’r jig-so, gan greu traean o’r allyriadau byd-eang. Ond mae problem diogelwch bwyd byd-eang yn llawer mwy na dim ond allyriadau. Mae cyflenwad sefydlog o fwyd yn angen dynol sylfaenol ac mae diffyg difrifol o ran atebion arloesol er mwyn helpu i fwydo’r genhedlaeth nesaf. Os na chaiff hyn sylw, bydd yn effeithio ar bob un ohonom. Bydd rhaid i ni gynyddu’r bwyd rydym yn ei gynhyrchu 70% erbyn 2050 er mwyn bwydo poblogaeth ddisgwyliedig o 9 biliwn. Bydd rhaid gwneud hyn gyda 25% yn llai o dir amaethu, priddoedd yn dirywio a hinsawdd gynyddol ansefydlog.
Yn LettUs Grow, rydyn ni’n credu bod rhaid i fwy na llywodraethau a defnyddwyr wneud newid. Rhaid i fusnesau chwarae rhan allweddol mewn darparu technoleg sy’n gwneud mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn bosib. Oherwydd hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion â’u ffocws ar fwyd. Drwy gyfuno ein cefndiroedd mewn peirianneg a bioleg, rydyn ni wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o helpu ffermwyr dan do i gynyddu eu gweithrediadau er mwyn cystadlu yn erbyn amaethyddiaeth draddodiadol. Mae ein technoleg newydd yn adeiladu ar lwyddiannau hydroponeg ac yn rhoi sylw i lawer o’r materion sydd wedi bod yn dal ffermio dan do yn ôl.
Un camsyniad cyffredin am blanhigion yw mai dim ond drwy eu dail maen nhw’n “anadlu”, ond mae rhywfaint o’r ocsigen a’r CO2 maen nhw’n eu defnyddio’n cael eu hamsugno hefyd drwy eu gwreiddiau. Drwy roi gwreiddiau ein planhigion ni mewn tarth llawn maethynnau yn hytrach na mewn dŵr, rydyn ni wedi goresgyn rhai o’r problemau mae hydroponeg yn eu hwynebu. Am nad ydynt o dan ddŵr, mae planhigion yn gallu anadlu’n well yn ystod eu cylch bywyd llawn. Gan ddefnyddio’r system hon, o’r enw aeroponeg, rydyn ni wedi gweld hyd at 70% o gynnydd mewn cnydau o gymharu â hydroponeg.
Fel sy’n digwydd yn aml, gall cryfder mwyaf tyfu aeroponig fod hefyd yn wendid mwyaf. Mae’r rhan fwyaf o systemau’n creu eu tarth drwy wthio dŵr llawn maethynnau drwy stribynnau o ffroenellau. Mae’r tyllau bach yn blocio’n gyflym gyda darnau o blanhigion yn syrthio ac wrth i halen a maethynnau grynhoi – yn debyg iawn i fel mae cen calch yn ffurfio tu mewn i degell. Rydyn ni wedi datblygu system heb unrhyw ffroenellau, felly does dim i flocio na thorri. Hefyd, ochr yn ochr â’n caledwedd sy’n aros patent, rydyn ni hefyd wedi datblygu system meddalwedd rheoli fferm integredig, o’r enw Ostara®, sy’n lleihau gofynion llafur, yn sicrhau’r amodau gorau i blanhigion dyfu ac yn gwneud bywydau ffermwyr yn haws.
Mae wedi bod yn siwrnai heriol ac roedd dewis gwneud LettUs Grow yn fenter lawn amser yn gam enfawr ar y pryd, gan ein bod yn datblygu rhywbeth cwbl newydd. Ni fyddem wedi llwyddo heb gefnogaeth The Environment Now.
Mae sicrhau buddsoddiad cyntaf ar ddechrau menter dechnoleg yn anodd. Drwy ddarparu cyllid ar gyfer costau’r deunyddiau, fe wnaeth The Environment Now ein galluogi ni i lunio ein prototeip a datblygu o fod yn dri myfyriwr gyda syniad i fod yn gwmni cofrestredig gyda phrawf o gysyniad. Roedd hyn nid yn unig yn gyfle i ni brofi bod ein technoleg yn gweithio, ond hefyd roedd yn cadarnhau’r syniad ei bod yn werth buddsoddi yn ein cwmni. O hynny, fe wnaeth The Environment Now ein helpu ni i gael mwy o gyllid ar adeg cwbl hanfodol, oedd yn golygu bod posib i ni fuddsoddi yn y bobl a’r offer gofynnol er mwyn datblygu mor gyflym ag yr ydyn ni wedi gwneud.
Roedd cael help priodol o’r dechrau’n hanfodol i ddatblygiad LettUs Grow ac mae wedi bod yn anhygoel cael The Environment Now yn brwydro ar ein rhan ni byth ers hynny. Mae eu cefnogaeth a’u brwdfrydedd parhaus wedi bod yn amhrisiadwy. Mae wedi ein helpu ni i symud o garreg filltir i garreg filltir – o ddosbarthu i’n cwsmeriaid cyntaf ni i hedfan i Amsterdam a chynnig ein syniad yn rownd derfynol gwobr cynaliadwyedd byd-eang Green Challenge.