Dyma aelod o Fforwm Ieuenctid Grassroots Challenge a Chynrychiolydd Ieuenctid ar Banel Gwerthuso Our Bright Future, Arwen Greenwood, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddigwyddiad Dathlu Grassroots Challenge.
Cynhaliwyd digwyddiad dathlu Grassroots Challenge eleni ddydd Gwener 23 Tachwedd yng Nghanolfan Ddinesig Craigavon ac roedd yn llwyddiant gwych. Dyma ail flwyddyn y prosiect ac roedd effaith gweithgareddau 2018, fel y gwelwyd ar y noson, yn fwy ac yn well na’r flwyddyn gyntaf. Roedd y noson yn cynnwys fideos a lluniau o weithgareddau’r flwyddyn a’r bobl ifanc. Roedd siaradwyr gwadd hefyd, Olwyn Ffawd Grassroots Challenge (gweithgaredd gyda chwestiynau’n procio’r meddwl) a chyflwyno’r gwobrau.
Cynlluniwyd y digwyddiad gan Fforwm Ieuenctid Grassroots Challenge, gyda sawl cyfarfod yn ystod y misoedd yn arwain at y digwyddiad i drafod manylion pwysig, e.e. y lleoliad, cynllun, cynnwys, gwahoddiadau, cod gwisg ac ati. Roedd rhai o’r aelodau ar y llwyfan ar y noson i gyflwyno fideos a gwesteion. Hefyd cafwyd araith dwymgalon gan un o’r ymgyrchwyr ifanc Dara McAnulty, am bwysigrwydd cymuned wrth helpu’r amgylchedd a sut mae wedi gweld hynny fel rhan o Fforwm Ieuenctid Grassroots Challenge.
Siaradwr gwadd y noson oedd Aidan Crean, warden adar, sydd wedi hen arfer helpu bywyd gwyllt, gan gynnwys gwarchod Dolydd Cors Belfast. Cafwyd araith galonogol ganddo am bwysigrwydd nid yn unig meddwl am warchod yr amgylchedd, ond hefyd gweithredu’n bositif, monitro’r gweithredu hwnnw, a dysgu sut i wneud yn well yn y dyfodol. Roedd yr holl luniau yn y sioe sleidiau ar y noson wedi gwneud argraff fawr arno gan fod pob un yn dangos pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau er lles yr amgylchedd.
Yn y digwyddiad y llynedd, gofynnwyd i’r gynulleidfa, ‘pa help all pobl ifanc ei roi er budd yr amgylchedd?’ Eleni, cafodd y cwestiwn ei droi ar ei ben a gofynnwyd yn hytrach i’r gynulleidfa ‘pa fudd mae pobl ifanc yn ei gael o helpu’r amgylchedd a bywyd gwyllt?’. Bydd adborth y cyfranogwyr yn dylanwadu ar weithgareddau Grassroots Challenge yn y dyfodol.
Adborth o’r dathliad:
‘Fe wnes i wir fwynhau’r noson wobrwyo yng Nghanolfan Ddinesig Craigavon gan fod yr awyrgylch yn hyfryd ac roedd yn braf cyfarfod enwebeion eraill y Grassroots Challenge oedd hefyd wedi cymryd rhan yn y DofE. Mae’r wobr yma wedi gwneud daioni i mi oherwydd rydw i wedi cael rôl Cadeirydd yr Eco Bwyllgor yn Ulidia ac mae hyn wir wedi fy ysbrydoli i a gwneud i mi deimlo’n fwy penderfynol am yr amgylchedd o’n cwmpas ni’
– Myfyriwr yng Ngholeg Ulidia
‘Roedd yn bleser pur bod yn rhan ohoni! Roedd yn noson ragorol – diolch i chi a’ch tîm.’  
– Dirprwy Lywydd YFCU
‘Roeddwn i wrth fy modd gyda’r siaradwr, oedd yn sôn am ei yrfa a’i ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, ac adar yn benodol, a’i angerdd yn y cyswllt yma. Roedd yn ddifyr iawn wrth gyflwyno, yn enwedig gan ei fod yn dod o Ogledd Iwerddon.’
– Aelod o Fforwm Ieuenctid Grassroots Challenge
‘Roedd ennill gwobr yn rhywbeth roeddwn i’n falch iawn ohono, yn enwedig gan fy mod i wedi mwynhau cymryd rhan yn Grassroots Challenge DofE. Rydw i’n teimlo y bydd y wobr yma’n gwella fy nghais UCAS i. Roeddwn i hefyd yn hapus iawn bod fy nhaid wedi gallu fy ngwylio i’n derbyn fy ngwobr’.
– Myfyriwr yng Ngholeg Ulidia
‘Diolch o galon am gynnal y digwyddiad dydd Gwener. Roedd yr ysgol gyfan wrth ei bodd gyda’r gwobrau!’
– Athro yn Ysgol Killard House
Yn olaf, llongyfarchiadau i’r holl grwpiau ac unigolion a enillodd wobrau. Maen nhw’n ein hysbrydoli ni i gymryd mwy o ran gyda gwaith amgylcheddol. Y flwyddyn nesaf, gobeithio bydd y digwyddiad yn fwy eto, ac yn well, ac yn fwy ysbrydoledig  na’r digwyddiad eleni!