Mae Lily Stringer yn cymryd rhan yn Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol Caerdydd sy’n cael ei chyflwyno gan UpRising. Mae ei blog yn herio ein harferion ni wrth brynu anrhegion Nadolig.
Rhywbeth Sentimental
Efallai bod hwn yn swnio’n sinistr fel dechrau i flog am y Nadolig, ond ystyriwch hyn: pe baech chi’n cael eich gorfodi o’ch cartref a dim ond yn gallu mynd ag un bag o eiddo gyda chi, beth fyddech chi’n ei ddewis? Go brin mai’r siwmper Nadolig liwgar gawsoch chi gan eich modryb fyddai’r dewis, neu’r gwydrau Nadoligaidd gafodd eu rhoi o dan y gwely ar ôl y Nadolig diwethaf. Byddai’n lluniau a gemwaith sy’n bwysig i chi, pethau sy’n golygu rhywbeth ac nad oes posib cael rhai newydd yn eu lle. Felly, wrth feddwl am beth i’w gael i rywun ar gyfer y Nadolig, beth am ei wneud yn rhywbeth sy’n golygu llawer? Rhywbeth â photensial i gael ei basio o un genhedlaeth i’r llall. Mae dau beth rydw i wedi sylwi arnyn nhw am y Nadolig. Y peth cyntaf ydi pan fyddaf i’n gofyn i bobl beth gawson nhw’n anrhegion Nadolig – erbyn mis Chwefror, dydi’r rhan fwyaf o bobl ddim yn cofio. Yr ail beth ydi ’mod i wedi sylwi mai ychydig iawn o anrhegion gewch chi yn eich bywyd fydd dal gennych chi 20 mlynedd yn ddiweddarach.
Lluniau     
Mae lluniau’n anrheg anhygoel oherwydd mae stori tu ôl iddyn nhw ac, oni bai eich bod chi’n DDRWG IAWN, maen nhw’n rhywbeth wnewch chi eu cadw am byth, felly does dim gwastraff. Maen nhw’n fwy gwerthfawr na dim yn aml ac yn rhywbeth unigryw yn ogystal â rhad.
Addurniadau
Mae addurniadau Nadolig yn anrheg wych. Ie, dim ond unwaith y flwyddyn maen nhw’n cael eu defnyddio, ond maen nhw’n rhywbeth fedr fod yn hynod sentimental ac mae posib eu pasio ymlaen i berthnasau. Mae gan bawb eu hoff addurn Nadolig maen nhw’n edrych ymlaen at ei estyn o’r bocs bob blwyddyn, felly meddyliwch am gael un a allai fod yn ffefryn newydd gan rywun. Gallai gynrychioli rhywun sydd wedi’ch gadael chi, neu gallai fod yn symbol o’ch presenoldeb chi os nad ydych chi’n gallu bod gyda’ch teulu dros y Nadolig. Gall fod wedi’i wneud gennych chi hyd yn oed.
Plannu coeden i gofio am rywun rydych chi wedi’i golli
Mae’r teitl yn y fan yma’n hawdd ei ddeall ond mae plannu coeden ar gyfer rhywun sydd wedi’ch gadael chi’n rhodd anhygoel. Mae teulu’n rhan hanfodol o’r Nadolig a phan rydych chi’n colli aelod o’r teulu, mae’r Nadolig yn gallu newid yn llwyr. Mae plannu coeden i rywun nid yn unig yn ffordd o gofio, ond hefyd yn weithgaredd teuluol pwysig i ddod â phawb yn nes, gan helpu’r amgylchedd ar yr un pryd.
Profiadau yn lle anrhegion wedi’u lapio
Pan rydych chi’n 100 oed ac yn edrych yn ôl ar eich bywyd, mae’n bur debyg mai’r peth fyddwch chi’n ei gofio fwyaf fydd y naid bynji wnaethoch chi, nid y bom bath neu’r sanau cynnes gawsoch chi ryw dro. Mae “anrhegion profiad” yn creu atgofion (sydd, yn eu tro, yn gallu creu lluniau ar gyfer y Nadolig nesaf). Maen nhw nid yn unig yn rhodd i rywun arall, ond gallent gynnwys rhodd i chi eich hun! Does dim gwastraff gydag anrhegion profiad, dim ond llond gwlad o atgofion.
Rhoddion i elusennau
Mae Santa Cudd yn siŵr o fod yn creu llawer iawn o anrhegion di-werth a gwastraff. Mae gwario £5 yn siŵr o fod yn golygu eich bod yn cael jync di-werth a bar o siocled, sy’n dda i ddim i neb. Meddyliwch: pe bai pob unigolyn mewn grŵp o 30 o bobl yn rhoi’r £5 roedden nhw am ei gwario ar sbwriel da i ddim at ei gilydd, byddai’n dod i gyfanswm o £150 i’w roi at elusen a fyddai wir yn elwa o’r arian. Rydw i’n eithaf siŵr y byddai’n well gen i wybod ’mod i wedi helpu rhywun na bod yn berchen ar set o ddannedd weindio sy’n clecian hyd y bwrdd.
Mae Crisis, elusen i’r digartref, yn rhoi lle yn eu canolfannau i unigolion, i gael cinio Nadolig, cawod, dillad glân, archwiliad meddygol, cymorth iechyd meddwl a chyfres o wasanaethau eraill am ddim ond £28.18. Os oes gennych chi griw o 7 o ffrindiau, dim ond £4 yr un ydi hynny. Mae UNICEF yn derbyn rhoddion o £13.50 i roi brechiadau polio i 100 o blant, sy’n llai na phumpunt rhwng 3 o bobl. Fel dewis arall, os ydych chi’n siopa i rywun arall, beth am brynu cyfraniad at rywbeth sy’n bwysig iddyn nhw ar eu cyfer. Elusen sydd wedi eu helpu neu fabwysiadu anifail maen nhw’n ei hoffi?
Creu pethau eich hun
Ym mhob tŷ adeg y Nadolig, bydd o leiaf 3 tun bisged neu focs siocled. Er bod y rhain yn hyfryd, NID oes posib ailgylchu’r hambyrddau plastig du y tu mewn i’r clawr cardfwrdd tlws. Ewch ar Google i newid hyn. Mae gan wefan bwyd y BBC ryseitiau hyfryd ar gyfer bisgedi a danteithion y gall y cogyddion lleiaf profiadol eu creu. Mae hyn nid yn unig yn helpu’r amgylchedd ond hefyd yn weithgaredd teuluol hyfryd ac yn llawer rhatach.
Siopau elusen
Mae siopau elusen yn anhygoel ac os nad ydych chi wedi bod mewn un, ewch! Maen nhw’n rhad, yn rhoi oes hirach i nwyddau, o fudd i achosion anhygoel ac, yn well na dim, dydych chi byth yn gwybod beth ddewch chi ar ei draws! Dros gyfnod y Nadolig, mae siopau elusen yn gwerthu llawer iawn o gynhyrchion sydd wedi’u cyfrannu fel anrhegion nad oedd pobl eu heisiau. Mae posib prynu pecynnau anrheg oedd yn costio £50 yn wreiddiol am ychydig bunnoedd! Mae hyn nid yn unig yn arbed arian i chi, ond hefyd yn atal gwastraffu’r cynhyrchion yma. Ac wrth gwrs, mae’n gweithio’r ffordd arall hefyd: os cewch chi 10 set bath nad oes gennych chi unrhyw fwriad eu defnyddio, beth am eu cyfrannu fel bod rhywun arall yn gallu eu mwynhau?