Lansiwyd Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol UpRising 2018-19 fis Tachwedd eleni yn Llundain, Caerdydd, Manceinion a Birmingham. Rhoddwyd cychwyn i’r rhaglen gyda Phenwythnos Lansio Arweinyddiaeth a gynhaliwyd ar yr un pryd yn y pedair dinas. Yn ystod y penwythnos, rhannodd yr UpRisers wybodaeth am yr heriau amgylcheddol allweddol sy’n wynebu eu cymunedau lleol, yn ogystal â deall eu rôl fel arweinwyr ifanc gwyrdd o ran goresgyn yr heriau hyn.   
Dyma Michael Woodland o Raglen Arweinyddiaeth Amgylcheddol Llundain i rannu ei feddyliau am y penwythnos …
Ddydd Sadwrn 10fed Tachwedd 2018, fe wnes i gyfarfod tua 30 o UpRisers eraill yn Western Snuff Mill yn Morden Hall Park i fynychu diwrnod cyntaf y Penwythnos Arweinyddiaeth Amgylcheddol. Nod y diwrnod yma oedd amlinellu’r heriau amgylcheddol o bwys sy’n wynebu’r byd, ac edrych ar y gwahanol ddulliau arwain a’r gwerthoedd sy’n sail iddyn nhw.
Ar ôl sgwrs i ddechrau a bingo i dorri’r iâ, fe gawson ni sgwrs am awr gan Dr Shahrar Ali, cyn ddirprwy arweinydd y Blaid Werdd. Canolbwyntiodd Dr Ali ar amlinellu’r heriau personol, technolegol ac economaidd sy’n wynebu’r byd o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Hefyd soniodd Dr Ali am egwyddor o ‘degwch i’r cenedlaethau’ i gyfiawnhau gweithredu. Roedd yr egwyddor yma’n cynnwys y ddyletswydd foesol sydd gan y genhedlaeth bresennol i ddiogelu’r byd presennol, ei ddaioni a’i adnoddau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hefyd canolbwyntiodd Dr Ali ar ‘anghyfiawnder hinsawdd’ o ran bod newid yn yr hinsawdd yn cael effaith annheg ar wledydd sy’n datblygu, gan olygu ei fod hefyd yn rhan o’r ateb i drechu anghydraddoldeb byd-eang. Awgrymodd Dr Ali y gallai ein cenhedlaeth ni weithredu drwy gyhoeddi ffeithiau am ddirywiad amgylcheddol a lobïo gwleidyddion i weithredu’n ddeddfwriaethol yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Ar ôl ei sgwrs fe gawson ni ginio ac wedyn seminar tair awr ar arweinyddiaeth. Yn y sesiwn yma roedden ni’n edrych ar sut gellir rhannu arweinyddiaeth yn naw steil wahanol yn fras, gan gynnwys ideolegol, carismataidd, trawsffurfiol a moesol. Mae pob steil yn cynnwys gwahanol ddulliau a gwerthoedd ac fe wnaethon ni ddefnyddio’r rhain gydag arweinwyr hanesyddol enwog (fel Nelson Mandela a Winston Churchill) i weld sut maen nhw’n esbonio cyd-destunau mewn bywyd go iawn. Fe welson ni’n fuan iawn bod y steiliau yma’n gorgyffwrdd a bod posib iddyn nhw amrywio ar wahanol adegau ym mywyd arweinydd. Yn sail i’r sesiwn yma roedd astudiaeth o rinweddau, sgiliau a gwerthoedd arweinydd effeithiol. Hefyd fe fuon ni’n ystyried pa agweddau oedd yn rhan o’n steil arwain ni a sut gallem gynnwys yr elfennau yma er mwyn gwella ein gallu i arwain. Daeth y sesiwn yma i ben drwy adlewyrchu ar beth wnaethon ni ei ddysgu yn ystod y dydd a thrafod sut gallem greu ein ‘cynlluniau datblygu personol’ ein hunain i gyflawni ein dyheadau.
Wrth adlewyrchu ar y diwrnod a’r agweddau allweddol ar beth ddysgais i’n bersonol, roeddwn i’n teimlo bod sgwrs Dr Ali wedi codi syniadau diddorol. Yn benodol, roeddwn i’n gallu uniaethu â’r cysyniad o ‘Greenwashing’, gyda phobl yn cymryd camau ‘gwyrdd’ sy’n cael effaith ar y broblem amgylcheddol yn gyffredinol. Un esiampl glir yw pobl yn prynu cwpan goffi ailddefnyddiadwy ond yn dal i brynu coffi bob dydd, sy’n cefnogi’r cylch o egsbloetio ffermwyr coffi mewn gwledydd sy’n datblygu. Syniad diddorol arall a godwyd gan Dr Ali oedd y mudiadau trawsnewid trefi, ymgyrch gweithredu cymdeithasol lle mae dinasoedd yn y DU, fel Brixton a Bryste, yn ceisio meithrin cynhyrchwyr lleol ac atebion amgylcheddol gyfeillgar a chreu awyrgylch cymunedol iach. Un dull a ddefnyddir gan y mudiad yma yw defnyddio arian arall yn lle’r bunt Brydeinig er mwyn cefnogi siopau lleol amgylcheddol gyfeillgar yn hytrach na chwmnïau byd-eang corfforaethol. Er bod gan y mudiad yma lawer o waith i’w wneud eto, mae’r cysyniad wir yn cefnogi gwerthoedd gweithio yn lleol ac atebion â’u ffocws ar y gymuned. Mae hyn o ddiddordeb i mi’n bersonol o ran trawsnewid y dimensiynau pŵer yn y DU o’r canol i’r lleol ac arloesi ar gyfer datblygu dinasoedd cynaliadwy yn y dyfodol. Hefyd roedd y seminar yn nes ymlaen yn ddefnyddiol i ddeall sut mae’n rhaid i steil arwain fod yn hyblyg a phwysleisio agweddau penodol ar adegau penodol, a beth oedd fy nghryfderau a’m gwendidau personol i fel arweinydd. Yn gyffredinol, roedd y diwrnod yn ddefnyddiol iawn – roedd yn grêt dod i adnabod yr UpRisers eraill a gosod pwyslais allweddol y rhaglen ar gyfer y naw mis nesaf yn ei gyd-destun.