Mae Millie Duke a Kyle Baker yn rhan o brosiect Our Bright Future Fife. Roedden nhw’n rhan o grŵp o bobl ifanc o brosiectau sy’n gweithio yn yr Alban a aeth ar ymweliad â Senedd Ieuenctid yr Alban ym mis Rhagfyr 2018. Dyma eu meddyliau am y profiad.    
Roedd ein hymweliad diweddar ni â Senedd Ieuenctid yr Alban (SYP) yng Nghaeredin yn gyfle i ni ddeall beth ydi SYP yn well, a’r prosiectau eraill oedd yn cael eu cynrychioli yn yr ymweliad. Roedd yn ddiddorol dysgu sut mae’n cael ei gweithredu a sut mae pobl yn gwneud gwahaniaeth.
Fe gawson ni gyfle i gyfarfod pobl ifanc eraill oedd yn frwdfrydig iawn ac yn llawn cymhelliant i wella eu cymunedau; gan gynnwys pobl o raglen Ymddiriedolaeth Natur yr Alban, sef Arweinwyr Ifanc, a dau fyfyriwr ôl-radd o One Cherry (rhan o The Environment Now). Mae One Cherry yn ceisio dod â siopa ail law yn rhan o fyd cyflym adwerthu ar-lein, i greu cenhedlaeth fwy cynaliadwy a moesegol o ddefnyddwyr.
Hwn oedd ein profiad cyntaf ni yn cyfarfod pobl oedd yn dod at ei gilydd i drafod syniadau newydd a rhannu eu huchelgais. Roedd yn eithriadol ysbrydoledig clywed eu straeon nhw a rhannu ein rhai ni. Fe gawson ni wybodaeth dda yn ystod y diwrnod am sut mae prosiectau eraill yn ceisio newid y ffordd rydyn ni’n edrych ar y byd. Fe wnaethon ni fwynhau clywed gan y prosiectau eraill, fel yr Arweinwyr Ifanc, oedd yn siarad am eu hamcanion a’u dyheadau a’n helpu ni i ddeall y broses o roi cychwyn i brosiect newydd.
Fe gawson ni ein croesawu ar y diwrnod gan aelod o SYP, Calum McArthur. Fe gawson ni wybod sut mae SYP yn gweithio a’r ymgyrchoedd mae’n eu cefnogi. Eleni mae’r ffocws mawr ar fynediad i drafnidiaeth, sy’n her enfawr mewn ardaloedd gwledig. Roedd hwn yn gyfle i ni esbonio ein cyswllt ni â rhaglen Lefel Dau Our Bright Future yn Fife. Fe wnaethon ni sôn am y cyfleoedd rydyn ni wedi’u cael fel rhan o’n prosiect, sy’n helpu pobl ifanc i ddod yn rhan o’r sector gwledig a meithrin sgiliau a llwyddo mewn meysydd fel garddwriaeth a choedwigaeth. Roedd posib i ni rannu pa mor bwysig ydi’r rhaglen i ni a pha mor hygyrch ydi addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith o ganlyniad iddi; rhywbeth sydd ddim ar gael i lawer o bobl ifanc.
Fe wnaethon ni fwynhau’n fawr y profiad o siarad ar ran Our Bright Future fel llysgenhadon ar gyfer y rhaglen. Roedd yn deimlad da gwybod bod posib i bawb oedd yn bresennol ddefnyddio ein gwybodaeth ni fel cyfrwng i wella eu ffyrdd o weithio, os bydd angen, a pha mor gefnogol oedd pawb.
Roedd y diwrnod yn brofiad da ac fe gawson ni wybodaeth wych am y prosiectau eraill. Fe fydden ni wrth ein bodd yn cael mynd i unrhyw ddigwyddiadau eraill ac fe fyddem yn annog unrhyw un i wneud hynny os bydd y cyfle’n codi!