Ar ôl astudio Swoleg Forol, ymunodd Adele Morgan â Your Shore Beach Rangers fel prentis y prosiect. Mae wedi gweithio gyda’i gyfryngau cymdeithasol ac mae’n cyflwyno ei sesiynau ieuenctid ers blwyddyn bron.
Dydw i ddim yn cofio amser pan nad oeddwn i’n hoffi byd natur. Wrth dyfu i fyny, roedd bywyd gwyllt trefol o ’nghwmpas i ym mhob man; llwynogod, wiwerod llwyd, moch daear a hwyaid gwyllt. Roeddwn i’n byw yng nghefn Afon Whey lle’r oedd fy nhad yn warden dŵr gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Fe dreuliais i ’mhlentynod yn chwilio am ddaearau moch daear, yn gwneud casts o olion traed anifeiliaid ac yn mynd ar deithiau tywys fy nhad yn chwilio am ystlumod a bywyd gwyllt cŵl arall.
Roedden ni’n mynd i Gernyw am wyliau haf yn rheolaidd a dyna pryd ddois i ar draws bywyd y môr a chael obsesiwn gyda’r byd tanddwr. Fe symudais i i Gernyw yn 18 oed i astudio yng Ngholeg Cernyw yn Newquay ac, ar ôl graddio gyda gradd Baglor mewn Swoleg Forol Gymhwysol, fe gefais i fy nerbyn ar brentisiaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Cernyw. Rydw i’n gweithio i brosiect Your Shore Beach Rangers, sef prosiect 5 mlynedd sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol drwy raglen Our Bright Future. Ei nod yw denu ac ysbrydoli pobl ifanc rhwng 11 a 24 oed a’u cymunedau ehangach i ymwneud mwy ag amgylchedd y môr. Fy rôl i yn y brentisiaeth yma yw gofalu am y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, helpu o ddydd i ddydd gyda thasgau gweinyddol a chynorthwyo gyda chynnal digwyddiadau ledled sir Cernyw.
Cyn y brentisiaeth yma, doeddwn i erioed wedi gweithio gyda phobl ifanc o’r blaen. Roeddwn i’n annibynnol tu hwnt ac yn ffafrio bod allan ym myd natur ar fy mhen fy hun yn hytrach nag yng nghwmni llawer o blant. Roedd rhaid i mi newid fy ffordd o feddwl yn gyflym iawn wrth ddechrau ymwneud â’r prosiect wardeiniaid traeth (oherwydd gweithio gyda phobl ifanc ydi’r holl nod wedi’r cwbl!) a nawr, ar ôl bron i flwyddyn, rydw i wrth fy modd! Mae’r plant sy’n dod i’r digwyddiadau’n frwdfrydig, cyffrous ac eisiau bod yno ac yn fodlon dysgu. Mae eu hymennydd nhw fel sbwng ac maen nhw’n sugno bob tamaid o wybodaeth rydych chi’n ei rhannu, yn enwedig y ffeithiau doniol, a ffiaidd weithiau, am greaduriaid y pyllau creigiog! Mae gwybod ei bod yn well ganddyn nhw fod allan yn yr awyr agored nag ar eu iPad yn gwneud fy ngwaith i’n bleser pur. Mae eu hangerdd a’u brwdfrydedd nhw’n cynyddu fy mwynhad i o fyd natur ac mae gweithio gyda phobl ifanc wedi dysgu llawer i mi yn sicr. Rydw i’n llawer mwy amyneddgar a bodlon, ac yn fwy parod i ddeall, ac mae gwybod bod pobl ifanc yn meithrin sgiliau bywyd a gwybodaeth yn ein digwyddiadau ni’n fy nghymell i i ddal ati.
Roedd dau ddigwyddiad penodol yn ystod 2018 oedd yn uchafbwyntiau o ran helpu i ddenu ac ysbrydoli pobl ifanc.
Gorffennaf 2018 – Saffari Snorcelu, Bude
Dyma’r saffari snorcelu cyntaf i mi ar ôl cwblhau cwrs hyfforddwr snorcelu BSAC. Doedd un ferch ifanc tua 13 oed heb snorcelu o’r blaen. Roedd yn nerfus iawn ac yn amharod i fynd i mewn i’r dŵr, ac felly fe fuon ni yn y dŵr bas am sbel tra oeddwn i’n ei dysgu hi i roi ei hoffer ymlaen ac anadlu drwy ei snorcel. Pan oedd yn teimlo’n ddigon hyderus, fe aethon ni i mewn i’r dŵr, ac yn gafael yn fy llaw i drwy’r amser, fe gafodd hi gyfle i archwilio’r byd tanddwr am y tro cyntaf. Roeddwn i’n gallu ei chlywed yn gwichian mewn pleser drwy ei snorcel wrth bwyntio at wrachod y môr yn cuddio yng nghanol y gwymon, cranc heglog yn cropian ar hyd gwely’r môr, a’r slefren gribog oedd yn arnofio yn y dŵr o’n blaen. Ar ôl 10 munud o nofio, fe ddangosais i iddi sut i blymio dan y dŵr i gael gwared ar y dŵr o’i snorcel. Ar ôl fy nghopïo i (yn berffaith hefyd), roedd hi’n fwy hyderus ynddi hi’i hun. Gollyngodd fy llaw a mynd ati i snorcelu ar ei phen ei hun. Roedd hi wrth ei bodd ac fe wnaeth y profiad fy nghymell a fy ysbrydoli i i ddysgu mwy o blant i snorcelu a manteisio i’r eithaf ar amgylchedd y môr.
Medi 2018 – Crwydro Pyllau Creigiog, Porthpean
Rydw i wrth fy modd yn archwilio pyllau creigiog ac ar ben fy nigon yn gwyro dros bwll neu ffos i weld beth sydd yno. Fe gawson ni sesiwn archwilio pyllau creigiog fel rhan o Grŵp Bywyd Gwyllt Three Bays ac fe wnes i gyfarfod Charlie, bachgen ifanc brwdfrydig oedd wrth ei fodd yn archwilio pyllau creigiog. Fe gawson ni amser gwych yn codi creigiau i ddod o hyd i grancod ac yn symud drwy’r pyllau creigiog yn chwilio am anemonïau. Roedd wedi gwirioni ar fy nghamera tanddwr i ac felly fe wnes i ddangos iddo sut i’w ddefnyddio ac i ffwrdd â fo. Roedd rhoi cyfrifoldeb iddo am y camera, ac ymddiried ynddo, yn helpu i feithrin ei hyder ac yn gyfle iddo gymryd rhan mewn rhywbeth oedd yn ei wneud yn fwy cyffrous. Ers hynny, mae Charlie wedi dod i sawl sesiwn archwilio pyllau arall ac mae’n hynod frwdfrydig a chyffrous. Mae wedi gofyn am ei gamera tanddwr ei hun hyd yn oed!
Mae gweld pobl ifanc yn magu hyder a gwybodaeth wrth i’n tîm ni eu haddysgu nhw’n rhoi llawer o foddhad. Os ydyn ni am ddenu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fod eisiau gwarchod yr amgylchedd, rydyn ni wir yn credu bod rhaid i ni fynd â nhw allan i deimlo’r cyswllt arbennig yna gyda byd natur. Rydw i’n byw’n agos at y môr nawr, gyda nod o weithio mewn cadwraeth forol. Rydw i’n treulio fy amser yn archwilio pyllau creigiog, yn cerdded ar hyd llwybrau’r arfordir, yn snorcelu drwy fforestydd o wymon ac yn rhannu fy holl wybodaeth gyda biolegwyr môr ifanc. Rydw i’n byw’r freuddwyd ac yn anelu’n uchel!