Ben Derrick, Hyfforddwr Garddio yn St Mungo’s, sy’n ysgrifennu am ymweliad pobl ifanc y prosiect Putting Down Roots for Young People â Gerddi Kew.  
Yn Putting Down Roots for Young People rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n methu mynd i ysgolion prif ffrwd. Mae hyn yn golygu na fyddent, heb ein cefnogaeth ni, yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi a thripiau ysgol sydd mor bwysig mewn addysg gyflawn. Rydyn ni’n credu ei bod yn bwysig cael hwyl hefyd!
Fe fuon ni’n gweithio gyda thîm allgymorth Gerddi Kew a oedd yn cynnal prosiect ar dynnu lluniau natur ac yn astudio celf gan ddefnyddio hyn fel cyfrwng. Fe ddaethon nhw i’n gweld ni yn ein safle hyfforddi yn Nwyrain Llundain a rhoi gwers i ni am hanes Gerddi Kew (ydych chi wedi bod yno? Mae’n ANHYGOEL!). Fe ddaethon nhw ag ‘arteffactau’ naturiol gyda nhw, fel darn o ‘bren’ cactws a chodau hadau enfawr gyda stori ryfeddol.
Fe wnaethon nhw ddysgu i ni sut i ddefnyddio golau naturiol i greu llun a sut i newid y cefndir i gael gwahanol effeithiau. Wedyn cafodd bawb gamera a chael cyfle i chwilio am wrthrychau naturiol y tu allan a defnyddio eu dychymyg i greu ambell gampwaith. Roedd hwn yn weithdy hynod ddiddorol ac yn ffordd wych o fod yn rhan o fyd natur. Fe wnaethon ni ddarganfod ‘celf a harddwch pydredd’ hyd yn oed, drwy dynnu lluniau blodyn haul yn dadelfennu, a’r ffyngau bach oedd yn byw arno.
Yr wythnos ganlynol fe aethon ni i gyd i Erddi Kew (ydyn ni wedi sôn pa mor GRÊt ydi Kew?) Fe aethon ni i’r Tŷ Tymherus sydd wedi ailagor o’r newydd a chafodd y myfyrwyr gyfle i ddefnyddio eu sgiliau newydd. Wedyn fe fuon nhw’n tynnu lluniau rhai planhigion hynod unigryw ac yn creu eu portffolio eu hunain o’u hoff luniau. Mae cyfle i’r lluniau gorau gael eu harddangos yn oriel Kew y gwanwyn yma, sy’n wych!
Wedyn fe aethon ni am dro rownd rhai o’r arddangosfeydd eraill a’r gofod gwyrdd yn Kew. Rydyn ni’n bwriadu mynd yn ôl eto yn y gwanwyn i dreulio’r diwrnod yn edrych ar bopeth wnaethon ni ei golli. Mae cymaint i’w weld ac mae Kew yn enfawr! Ac wrth gwrs, rydyn ni eisiau gweld a oes unrhyw rai o’n lluniau ni’n cael eu harddangos!
Mae hon wedi bod yn ffordd wych o gael pobl ifanc i weithio gyda’r amgylchedd ac edrych ar y sector gwyrdd a’r amgylchedd byw mewn ffordd newydd. Fel prosiect roedden ni wir yn teimlo bod y gweithdai’n arbennig o dda, gan ysbrydoli’r bobl ifanc. Rwy’n siŵr eich bod chi’n cytuno bod ein lluniau ni’n adlewyrchu pa mor bositif ac unigryw oedd y profiad yma.