Mae Community Payback yn un o elfennau cyflawni prosiect Milestones Our Bright Future, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ers i’r Care Farm agor ym mis Tachwedd 2016, mae Community Payback wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau yno, unwaith yr wythnos bron. Mae’r Care Farm yn defnyddio arferion ffermio therapiwtig i helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd, meithrin eu hyder a dod yn annibynnol. Pan mae prosiectau mawr wedi bod ar waith, fel adeiladu polydwnelau, maen nhw wedi gweithio gyda ni hyd at dair gwaith yr wythnos. Heb yr holl waith di-dâl sy’n cael ei wneud gan Community Payback, ni fyddai’r Care Farm yn bodoli fel ag y mae heddiw.
Mae Community Payback yn gynllun sy’n cael ei weithredu’n genedlaethol gan y Gwasanaeth Prawf. Yn Sir Wilt, mae’r gwaith o redeg y cynllun o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol Bryste, Sir Caerloyw, Gwlad yr Haf a Sir Wilt (BGSW CRC). Mae’n galluogi i droseddwyr sydd wedi’u canfod yn euog gan lysoedd ac wedi cael Gorchymyn Cymunedol sy’n cynnwys Gofyniad Gwaith Di-dâl, wneud iawn i’r gymuned leol. Mae’r troseddwyr yn 18 oed a hŷn. Mae eu troseddau’n cael eu hystyried fel rhai ar lefel isel ac maen nhw’n cael eu hasesu’n llym i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas i weithio yn y gymuned. Mae staff yn gweithio gyda nhw ac mae’r rhain wedi cael hyfforddiant arbennig i ddelio â’r amrywiaeth o anghenion sy’n gallu codi ymhlith troseddwyr wrth iddyn nhw ddod drwy’r system.
Mae Community Payback wedi cyfrannu at adeiladu tri o’r polydwnelau, saith gwely plannu, 70m o ffens pyst a rheiliau ar gyfer corlannau moch ac maen nhw wedi cloddio a gosod wyneb ar ryw 60m o lwybrau. Hefyd, maen nhw wedi cloddio gyda’u dwylo ac wedi cludo sawl tunnell o bridd, tywod a graean mewn berfa fel rhan o’r gwaith o gloddio’r pwll o amgylch Ynys y Madfallod.
Y tu allan i’r Care Farm, mae Community Payback wedi bod yn allweddol yn y gwaith o greu 15 gardd gymunedol, gan gynnwys creu ardaloedd Ysgol Fforest mewn ysgolion, plannu perllannau cymunedol gyda’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a gosod gwelyau plannu mewn hostel i’r digartref ac mewn ardaloedd o dai cymdeithasol. Yn nodedig iawn, mae un o’r gerddi cymunedol y buon nhw’n helpu i’w chreu a’i chynnal wedi ennill gwobr ‘It’s Your Neighbourhood’ am y drydedd flwyddyn yn olynol yn awr gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.