Fy enw i ydi Sarah Dorman ac rydw i’n 23 oed. Rydw i’n ymwneud â phrosiect Her Grassroots a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Ulster yng Ngogledd Iwerddon. Yn fy marn i, dyma un o’r cyfleoedd gorau rydych chi’n eu cael mewn bywyd i weithio gyda’r sectorau amgylcheddol ac amaethyddol. Pwy sydd ddim yn hoffi gwisgo welingtyns a gweld ble fydd yr anturiaethau’n eich arwain chi?
Fe ddechreuodd fy siwrnai i gyda Chlybiau Ffermwyr Ifanc Ulster ryw naw mlynedd yn ôl pan wnes i ymuno â Ffermwyr Ifanc Spa am y tro cyntaf. Ers ymuno, rydw i wedi cael sawl rôl fel rhan o bwyllgor y clwb a’i wylio’n mynd o nerth i nerth. Yn ystod haf 2018, fe gefais i gyfle i ymuno â Fforwm Ieuenctid Her Grassroots, wrth gwblhau Dyfarniad Efydd Eco Glwb. Roedd yn gyfle rhy dda i’w golli! Roedd cyfarfod Fforwm Ieuenctid Her Grassroots yn ddiddorol iawn ac yn llawn gwybodaeth. Fe wnes i gyfarfod â holl aelodau eraill y Fforwm Ieuenctid ac maen nhw’n griw grêt! Ers hynny rydw i wedi bod mewn sawl cyfarfod ac wedi cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau, gan gynnwys creu bocsys i dylluanod gwynion, gwesty i fân-drychfilod, modrwyo adar ac archwilio pyllau.
Yr antur nesaf i mi oedd ymuno â Fforwm Ieuenctid Our Bright Future ar gyfer y rhaglen gyfan, yn cynrychioli’r prosiect Her Grassroots. Mae gan y Fforwm Ieuenctid yma gynrychiolwyr o 31 o brosiectau Our Bright Future ledled Gogledd Iwerddon, Cymru, yr Alban a Lloegr. Ddydd Sadwrn 2 Chwefror, fe ganodd fy larwm i am 4am ac fe es i i’r maes awyr. Roeddwn i ym Manceinion yn fuan iawn, ar gyfer fy nghyfarfod cyntaf o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Roedd Manceinion yn eithaf oer, gyda thipyn o eira, ond roedd y lleoliad, The Studio, yn wahanol iawn; cynnes, golau a modern. Roedden ni’n barod am ddiwrnod cynhyrchiol!
Fe gafwyd cychwyn gwych i’r diwrnod gyda gweithgaredd natur. Gofynnwyd i bawb ddewis brigyn, carreg a deilen, eithaf rhyfedd roeddwn i’n meddwl, ond yn y diwedd roedd pawb yn cymysgu ac yn creu gwaith celf! Roedd yn weithgaredd perffaith i gael pawb i sgwrsio cyn dechrau trafod o ddifri.
Roedd llawer o’r diwrnod yn canolbwyntio ar ein paratoi ni ar gyfer derbyniad seneddol Our Bright Future fis nesaf. Roedd llawer o drafodaethau gan wahanol arweinwyr a siaradwyr ysbrydoledig. Fe gawson ni wybod beth i’w ddisgwyl yn y Senedd, sut i fod yn ysgogol ac, yn bwysicach na dim, i gredu ynom ni ein hunain. Roedd pawb yn llawn egni ac mor barod i wneud gwahaniaeth gyda’n gilydd. Pan fyddwn ni’n ymweld â’r Senedd, fe fyddwn ni’n ymgyrchu dros o leiaf awr o addysg awyr agored mewn ysgolion bob dydd, dros fwy o gyfleoedd i gael swyddi amgylcheddol, a thros gael busnesau, ac elusennau a’r Llywodraeth i wrando ar bobl ifanc drwy ddewis mwy o ymddiriedolwyr ifanc a byrddau cynghori o ieuenctid.
Drwy gydol y dydd, fe eisteddais i gydag aelodau eraill Fforwm Ieuenctid Our Bright Future o brosiectau yng Nghymru, Llundain a Sir Efrog. Roedd yn ddiddorol iawn clywed am eu cefndiroedd nhw a’r prosiectau maen nhw’n cymryd rhan ynddyn nhw. Fe wnes i adael y cyfarfod hefyd gyda llawer o syniadau y gallaf i eu defnyddio gyda fy mhrosiect i. Fy hoff ran i o’r diwrnod oedd cael cyfle i gyfarfod pobl newydd sydd â’r un diddordeb yn yr amgylchedd. Mae Our Bright Future yn dod â chymaint o wahanol brosiectau at ei gilydd o dan un ymbarél. Roedd yn grêt cyfarfod Ffermwyr Ifanc eraill oedd yn aelodau hefyd!
Rydw i wedi dod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future gyda llawer o syniadau newydd, a brwdfrydedd i ddal ati i wneud fy rhan dros yr amgylchedd. Hefyd rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd. Rydw i’n edrych ymlaen yn barod at ymgyrchu yn y Senedd fis nesaf!
I gloi, fe fyddwn i’n disgrifio fy nghyfarfod cyntaf i o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future mewn tri gair fel ysbrydoledig, diddorol ac ysgogol.