Mae prosiect Growing Up Green yn Hill Holt Wood yn un o 31 o brosiectau Our Bright Future ledled y DU. Mae’n cael 4,000 o bobl ifanc ger Lincoln i ymwneud â’r byd natur ar garreg eu drws. Dyma’r Uwch Warden, Gavin, i sôn am eu tripiau i ymweld â phrosiectau eraill Our Bright Future.
‘Rydyn ni’n mynd i ymweld â phob prosiect’ dywedodd Steve, Prif Weithredwr Hill Holt Wood! Fe welodd pawb yn y tîm hyn fel cyfle i godi allan a chael ein hysbrydoli. Fe aethon ni ati i ymweld â’r prosiectau eraill a hefyd croesawu prosiectau atom ni, gan ein bod ni wir eisiau hybu ethos Rhannu Dysgu Gwella y rhaglen.
O’r dechrau roedden ni’n gwybod ein bod ni eisiau rhannu’r profiadau a’r cyfleoedd gyda’n tîm cyfan ni o wardeniaid a chynnwys pobl ifanc bob cam o’r ffordd. Roedd y trip cyntaf un i’r Alban, i brosiect Our Bright Future Fife. Roedd yn cynnwys uwch warden, aelod o dîm y swyddfa a thri dysgwr. Fel sy’n digwydd yn aml, y trip cyntaf oedd yr un mwyaf cofiadwy ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Gwersylla o dan y sêr, cerdded drwy fforest binwydd drwchus ac anwesu pen tarw oedd yr uchafbwyntiau mwyaf!
Ym mis Gorffennaf 2016, aethon ni i’r prosiect Creu Cymunedau Cynaliadwy yn Ne Cymru. Roedd hwn yn arbennig iawn am nad oedd dau o’n dysgwyr ni wedi bod y tu allan i Loegr o’r blaen, felly roedden nhw wedi cyffroi! Ym mis Medi fe aethon ni i Hull i gyfarfod y prosiect Youth In Nature, gan ymweld â Gwarchodfa Natur Spurn Point i gymharu cynefinoedd. Ym mis Hydref, fe fuon ni’n dringo dros greigiau gyda Growing Confidence ac ym mis Tachwedd cafwyd trip lleol i Tomorrow’s Natural Leaders yn Sir Efrog.
Croesawyd y Flwyddyn Newydd yn 2017 gyda thrip i weld perllan wedi’i phlannu gan Fruitfull Communities yn YMCA Norwich. Fe wnaethon ni beli hadau blodau gwyllt gyda nhw! Cyn diwedd y mis, fe fuon ni hefyd yn BEE You i weld eu prosiect cadw gwenyn. Cafwyd tripiau i Your Shore Beach Rangers, Putting Down Roots for Young People, Green Futures a’r rhaglen UpRising Environmental Leadership yn nes ymlaen yn y gwanwyn.
Dangosodd y prosiect Green Academies Morden Hall i ni ym mis Mehefin ac fe wnaethon ni yrru lawr i Sir Wilt i weld Milestones. Bod yn rhyngwladol oedd yn mynd â’n bryd ni ym mis Gorffennaf gan deithio i weld prosiect Grassroots Challenge yn Belfast. Hwn oedd y tro cyntaf i ddau o’n pobl ifanc ni hedfan ac roedd yn esiampl berffaith o sut mae Our Bright Future yn gallu ehangu gorwelion. Ym mis Gorffennaf fe fuon ni’n gwneud gwaith celf gyda Creative Pathways for Environmental Design yn yr Alban. Ym mis Medi, fe gawson ni ymweliad llawn gwybodaeth â Bright Green Future a thrip ysbrydoledig i Our Bright Future Avon a Sir Gaerloyw. Fe wnaed dau ymweliad yn ystod yr un trip y tro yma, i leihau’r milltiroedd oedden ni’n eu teithio. Fe wnaethon ni geisio gwneud hyn bob tro roedd yn gwneud synnwyr.
Daeth yn fis Hydref ac fe fuon ni’n gwerthu llysiau a ffrwythau ffres lleol i fyfyrwyr yn mynd heibio ym Mhrifysgol Sheffield gyda Student Eats, cyn mynd i Myplace yn Sir Gaerhirfryn a Spaces 4 Change yn Llundain. Yma fe welson ni gynlluniau ar gyfer canolfan siopa wag, i’w hadfywio fel hwb cymunedol, a gofod bach mewn to sydd wedi cael ei newid yn gampfa. One Planet Pioneers wnaeth ein croesawu ni nesaf wrth i’r tywydd droi a hithau’n fis Tachwedd. Yn olaf, fe ddaethon ni â blwyddyn brysur i ben drwy deithio i Welcome to the Green Economy.
2018 oedd blwyddyn y tripiau olaf, gan ddechrau gyda My World My Home ym mis Chwefror a’n trip hirddisgwyliedig prysur (angen siwtiau gwlyb!) i Ein Glannau Gwyllt yng Ngogledd Cymru ym mis Mai. Cafwyd tripiau i Vision England a Green Leaders ym mis Hydref, gan archwilio dinas Manceinion gyda Green Leaders. Roedd hwn yn brofiad anhygoel yn dangos gwerth dysgu am ddiwylliant yr ardaloedd lle mae’r prosiectau eraill wedi’u lleoli.
Fe ddaeth cymaint o bethau positif o’r ymweliadau; cael syniadau newydd, gweld llefydd newydd, dod i adnabod ein pobl ifanc yn well a theimlo’n rhan o fudiad mwy. Fe wnaethon ni ddechrau darganfod faint o bobl (ifanc a llai ifanc!) sy’n poeni am fyd natur cymaint â ni! O safbwynt amgylcheddol, y pryder mwyaf yw’r milltiroedd sy’n cael eu teithio. Mae gyrru a hedfan i brosiectau’n gadael ôl troed carbon sylweddol. Er hyn, rydyn ni’n sicr bod y manteision i’n pobl ifanc ni ac i’r staff a’r rhaglen yn fwy na’r anfanteision yn gyffredinol. Pwy a ŵyr faint o garbon fyddwn ni’n ei arbed nawr ein bod ni wedi addysgu ac ysbrydoli’r bobl yma i wneud gwell dewisiadau amgylcheddol?
Meddai Steve ar ddiwedd ein hymweliadau, ‘Er mai 45 o wahanol dripiau cyfnewid oedd y rhain, rydw i’n ei gweld hi fel un rhaglen gyflawn, nid 31 o brosiectau ar wahân. Mae’n gwneud synnwyr i weld beth mae pawb yn ei wneud. Mae pob siwrnai’n ehangu gorwelion ein hieuenctid ni; profiadau newydd, bwyd newydd, pobl newydd a diwylliannau newydd.’ Diolch i bawb sy’n parhau i sicrhau bod y rhannu, y dysgu a’r gwella mor gofiadwy a gwerthfawr. Daliwch ati gyda’r gwaith anhygoel.