Aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future, Rachel Sampara, sy’n rhannu ei phrofiad o deithio i Lundain i gyfarfod ASau. Mae’n diwtor cadw gwenyn gyda phrosiect Blackburne House, BEE You.
Roedd bore’r 5ed o Fawrth 2019 yn fore ffres ac oer o wanwyn yn Llundain. Hwn oedd y diwrnod pryd oedd prosiectau Our Bright Future ledled y DU yn ymweld â San Steffan.
Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, mae’r prosiectau wedi mynychu cyfarfodydd rheolaidd ledled y wlad, i baratoi ar gyfer y digwyddiad yma. Gwnaed penderfyniadau ynghylch y tri chais roedden ni eisiau eu cyflwyno i’r Senedd a sut orau i wneud hynny. Roedd y siaradwyr gwadd yn y cyfarfod diweddar o’r Fforwm Ieuenctid ym Manceinion yn cynnwys Cyfeillion y Ddaear, wnaeth gynghori ar y ffyrdd gorau o wahodd ein ASau i’r digwyddiad a sut i fynegi ein tri chais ar y diwrnod.
Ar fore’r digwyddiad, fe gawsom ni i gyd ein tywys o amgylch y Tai Seneddol. Roedd hwn yn gyfle i weld sut mae’r Senedd yn gweithio, o’i dechrau hanesyddol i’r oes heddiw. Roedd y daith yn brofiad addysgol i ni a hefyd yn gosod y naws, yn barod ar gyfer y digwyddiad rhwydweithio gyda’r ASau y prynhawn hwnnw.
Aeth môr o bobl ifanc a staff Our Bright Future, mewn dillad print bywyd gwyllt i gyd, i mewn i San Steffan ar ôl cinio. Fe wnaethon ni drefnu ein hunain yn ôl ardaloedd y prosiectau fel bod yr ASau yn gallu dod o hyd i’w prosiectau lleol yn hawdd. Cyflwynwyd ein ceisiadau i’n ASau lleol, gan ofyn am gefnogaeth, ymrwymiad a dilyniant am eu cynnydd.
Cafwyd te prynhawn ac wedyn y cyflwyniadau cychwynnol. Roedd hwn yn gyfle i bawb anadlu ac ymlacio yn barod ar gyfer siarad gyda’r ASau. Roedd mwy o ryngweithio (gydag egwyl i fwyta cacennau!) wrth i’r bore droi’n brynhawn.
Bu’r bobl ifanc a’r ASau yn sgwrsio’n ddwys ac roedd yr ystafell yn fwrlwm o egni positif! Yng nghanol y rhwydweithio, cafwyd areithiau hefyd gan Rushanara Ali (AS Llafur a chydsylfaenydd partner Our Bright Future, UpRising), a gyflwynodd grynodeb o’r rhaglen a diolch i bawb oedd yn gysylltiedig, a hefyd Peter Ainsworth (Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol), a ddangosodd fideo byr oedd yn cynnwys ein tri chais:
  1. mwy o amser yn cael ei dreulio ym myd natur ac yn dysgu am natur
  2. cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol
  3. y Llywodraeth, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a’r amgylchedd
Hefyd cafwyd areithiau gan ddau berson ifanc o wahanol brosiectau Our Bright Future: Amelia Fawcett o Green Futures a Dara McAnulty o Grassroots Challenge. Fe gawsom ni hanes eu profiadau personol ac roedden nhw mor angerddol a chlir am bwysigrwydd cefnogi pobl ifanc mewn addysg amgylcheddol. Dyma ddwy esiampl ragorol o beth mae pobl ifanc yn gallu’i gyflawni, gyda chefnogaeth Our Bright Future. Daeth y diwrnod i ben ar nodyn pwerus ac ysbrydoledig iawn!