Teithiodd Paige Bentley, 22 oed, o brosiect Ein Glannau Gwyllt yng Ngogledd Cymru i Glasgow fis diwethaf ar gyfer Cynhadledd Forol Ryngwladol yr Alban a Symposiwm Sbwriel Morol Cyngor Prydain ac Iwerddon. Dyma beth wnaeth hi ei ddysgu.
Cynhaliwyd Cynhadledd Forol Ryngwladol yr Alban ym Mhrifysgol Strathclyde ac roedd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu cenedlaethol a rhyngwladol i warchod amgylchedd y môr. Mae hyn yn cael ei wneud drwy adnabod bygythiadau newydd a chanfod atebion i wyrdroi’r difrod presennol. Ar ôl siwrnai o bum awr ar y trên o Gymru i’r Alban, fe fuon ni’n astudio’r arddangosfeydd, yn dysgu am brosiectau sy’n lleihau llygredd yn y môr ac yn ehangu ein hymwybyddiaeth o ecosystemau morol. Roedd y prosiectau hyn yn cynnwys The Cotton Bud Project, The Great Nurdle Hunt, Scrapbook a SeaSearch.
Pan rydw i yn Ein Glannau Gwyllt, rydw i’n treulio llawer o amser yn clirio sbwriel oddi ar draethau ac yn cynorthwyo gyda gweithgareddau i deuluoedd, gan ganolbwyntio ar gadwraeth forol. Roedd y gynhadledd yma’n gyfle perffaith i mi dyrchu’n ddyfnach i’r materion yma a gweld beth sy’n cael ei wneud ar lefel wleidyddol i fynd i’r afael â phroblem mor fawr. Fe fuon ni yn y sesiwn ‘hybu newid ymddygiad’ a oedd yn pwysleisio bod dewisiadau defnyddwyr yn sbarduno gweithgynhyrchu ac, yn y pen draw, llygredd. Ar nodyn positif, fe wnaethon ni ddysgu am #WildBottleSighting, Upstream Battle a LiveHereLoveHere, sydd i gyd yn ceisio newid arferion cymdeithasol i sicrhau ffyrdd cynaliadwy o fyw. Mae pob un o’r prosiectau yma’n gwthio’r agenda amgylcheddol ac yn defnyddio emosiwn i annog y cyhoedd i newid.
Yn y pnawn roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar ieuenctid dan 13 oed ac fe fuon ni’n meddwl am ffyrdd o normaleiddio amgylcheddwyr. Fe gawson ni ein hysbrydoli gan Lilly, 10 oed, a’i stori am ei hymgyrch Lilly’s Plastic Pickup’, a sut mae hi’n galw ar bobl ifanc i herio eu rhieni, eu hysgolion a’r Llywodraeth i weithredu’n gyflymach. Wedyn fe gawson ni sesiwn Holi ac Ateb oedd yn sôn am lawer o faterion, gan gynnwys cyfrifoldeb y cynhyrchydd, arloesi i ddiogelu yn y dyfodol a thargedu emosiynol. Roedd llawer o safbwyntiau newydd i mi’n cael eu cyflwyno, felly roedd digon i gnoi cil arno! Fe wnaeth fi’n fwy penderfynol fyth i weithredu dros system newydd a chreu newid o bwys.
Gyda’r nos fe fuon ni yn y Cinio Gweinidogol yn Oriel Gelf Kelvingrove. Roedd hwn yn gyfle perffaith i ddod i adnabod y cynrychiolwyr ifanc eraill ac i gyfnewid cyngor ar sicrhau bod ein lleisiau ni’n cael eu clywed yng nghanol holl fwrlwm y byd gwleidyddol. Roedd hwn yn lleoliad hardd ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r arddangosfeydd o fyd natur. Roedd Dippy y Deino yn un uchafbwynt arbennig!
Wedyn fe aethon ni i Symposiwm Sbwriel Morol Cyngor Prydain ac Iwerddon. Roedd Llywodraethau’r Alban, Iwerddon, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw i gyd yn bresennol. Roedden ni’n ffodus iawn gan fod y trafodaethau’n cael eu cynnal tu ôl i ddrysau caeedig fel arfer, ond roedd cynulleidfa’n cael ei chaniatáu eleni! Ffocws y digwyddiad oedd offer pysgota, colli peledi plastig cyn cynhyrchu ac addysg. Fe wnaethon ni fynychu sesiwn grŵp ar addysg. Yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, rydyn ni’n ceisio hybu newid ymddygiad a gwella’r blaned, felly roedd hwn yn addas iawn! Roedd yn sesiwn positif iawn, yn canolbwyntio ar atebion yn hytrach  na phroblemau. Cafodd yr holl syniadau ac awgrymiadau eu nodi a’u cyflwyno i’r Llywodraeth i ddechrau ar y broses o ehangu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Dyma ein syniadau ni:
  • cefnogi prosiectau ac ymgyrchwyr ifanc gyda deunyddiau priodol
  • modiwlau amgylcheddol ar gyfer hyfforddiant pysgodfeydd proffesiynol
  • cynnwys ymwybyddiaeth amgylcheddol mewn modiwlau presennol mewn ysgolion
  • cynnwys prosiectau ar wahân o dan gynllun cyffredinol mwy
Fe wnaethon ni gyflwyno ein hawgrymiadau ni (ond fe gymerodd 20 munud o adrenalin a nerfau cyn i mi fagu hyder i siarad!). Pwy a ŵyr, efallai ein bod ni wedi helpu gyda newid polisi mewn rhyw ffordd fechan.
Roedd mynd i’r Alban yn gyfle unigryw! Fe fydda’ i’n sicr yn defnyddio popeth rydw i wedi’i ddysgu i ddal ati i frwydro dros newid. Rydw i’n fwy awyddus nag erioed i helpu gyda’r frwydr yma a dydw i ddim yn meddwl mai fi ydi’r unig un sy’n teimlo felly. Mae’r llanw’n troi!