Mae Millie Duke a Lucia Hackl yn brentisiaid gyda phrosiect Our Bright Future Fife. Aethant ar drip i Sir Efrog i ymweld â phrosiectau eraill Our Bright Future; Green Futures a Tomorrow’s Natural Leaders.
Fel prentisiaid gydag Our Bright Future yn Fife, yr Alban, fe gawson ni gyfle i deithio i Gymoedd Sir Efrog er mwyn cyfarfod pobl ifanc eraill sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ehangach.
Fe wnaethon ni gychwyn ar fore dydd Mawrth, ar ôl pacio pebyll a sachau cysgu! Ar ôl ychydig o oriau ar y ffordd, fe wnaethon ni stopio am seibiant yn Ardal y Llynnoedd, ac roedd y golygfeydd trawiadol o’r mynyddoedd a’r dŵr glas clir fel crisial yn argraff gyntaf berffaith o gefn gwlad Lloegr.
Ar ôl noson o wersylla a larwm cynnar yn y bore gan gorws y wawr, fe wnaethon ni bacio ein pethau a chychwyn am brosiect Green Futures sy’n cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog; mae’n cynnwys gwirfoddolwyr, myfyrwyr a phrentisiaid fel ni!
Adfer glan afon oedd y dasg gyntaf. Yn ein welingtyns, fe aethon ni ati i helpu ar unwaith! Gan dynnu cerrig, creigiau a hen byst wedi pydru, fe fuon ni’n clirio’r ymylon ac yn gwneud yr arwyneb yn fflat cyn dod â changhennau helyg i mewn. Roedd y wardeniaid wedi torri’r helyg i faint yn barod, bach a mawr, gyda sawl postyn pren i’w gosod ar y lan. I ddechrau, fe wnaethon ni drefnu’r pyst ryw fetr ar wahân a defnyddio teclyn gyrru i’w suddo yn y ddaear. Wedyn fe aethon ni â’r canghennau mwy ac, mewn timau bach, helpu ein gilydd i’w symud i’r afon a’u diogelu rhwng y pyst. Gan gyfathrebu’n dda gyda’n cymdogion, fe wnaethon ni lwyddo i barhau â’r llinell yn berffaith i lawr glan yr afon, fel bod gan bawb ddigon o goed ac yn gallu eu rhoi yn eu lle’n gyfforddus. Roed perchnogi ein gofod a chydweithio fel un tîm enfawr yn galluogi i ni ddiogelu’r helyg a gwneud gwaith gwych! Roedd pawb gydag Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog yn gefnogol a chyfeillgar iawn ac roedd y gwaith yn brofiad hwyliog a phositif i bawb ohonom ni.
Ar ôl bwyd haeddiannol mewn caffi hyfryd yn y pentref, fe gawson ni ein harwain i fyny’r caeau ar daith hyfryd i Ogof Malham, clogwyn calchfaen enfawr ar dro gyda golygfeydd anhygoel o gefn gwlad Skipton, diwedd perffaith i ddiwrnod perffaith!
Y noson honno fe wnaethon ni yrru i’n safle gwersylla, llecyn tawel hyfryd yn ymyl ffarm fechan, ac fe gawson ni fwyd dros dân agored a rhannu straeon am ein diwrnod a’r gwahanol bobl roedden ni wedi’u cyfarfod. Roedd wir yn ddiddorol dysgu mwy am y bobl oedd wedi dod o hyd i’r un cyfleoedd â ni, ond mewn rhan wahanol o’r wlad ac o gefndiroedd gwahanol. Rydw i’n meddwl ei fod yn ysbrydoledig gwrando ar uchelgais y bobl ifanc eraill a sut maen nhw eisiau newid y ffordd rydyn ni’n byw i gefnogi’r amgylchedd rydyn ni i gyd yn ei hoffi.
Y diwrnod canlynol, fe gawson ni gyfarfod Tomorrow’s Natural Leaders sy’n cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Efrog ar fferm mewn pentref tawel wedi’i amgylchynu gan erwau o goetir hardd.
Fe wnaethon nhw ddefnyddio ein hymweliad ni fel cyfle i ddod â phrosiectau sy’n rhy bell oddi wrth ei gilydd i gysylltu’n rheolaidd at ei gilydd. Roedd yn grêt cyfarfod cymaint o wahanol bobl (ac ambell gi!) yn yr un sefyllfa â ni; yn hyfforddi neu’n gwirfoddoli gyda sefydliadau sy’n ceisio gwarchod byd natur a darparu gyrfaoedd yn y sectorau gwledig.
Fe ddechreuodd y diwrnod drwy rannu i dimau, yn cynnwys pobl nad oedden ni’n eu hadnabod o brosiectau eraill, er mwyn i bawb ddod i adnabod ei gilydd yn well a mentro tu hwnt i beth oedd yn gyfforddus i bawb. Roedd yn syniad grêt er mwyn dod i weld pwy oedd pawb ac, wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, fe ddaethon ni i ddeall beth oedd pawb yn angerddol yn ei gylch a beth oedd eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Fe wnaethon ni ffrindiau da ac rydyn ni mewn cysylltiad o hyd!
Cynhaliodd pobl ifanc Tomorrow’s Natural Leaders lawer o weithgareddau nad oedden ni wedi cymryd rhan ynddyn nhw o’r blaen, fel arolygon glöynnod byw a phryfed genwair, codi ffens ac ailgylchu hen warchodion coed. Roedd wir yn ddiddorol ac fe gawson ni ambell syniad i fynd yn ôl i’r Alban gyda ni!
Roedd y profiad cyfan yn agoriad llygad mawr ac roedden ni’n teimlo ei bod yn fraint cael cyfle i deithio mor bell a chyfarfod cymaint o wahanol bobl. Diolch yn fawr, Our Bright Future, am antur mor arbennig!