Jo Boylan yw’r Swyddog Allgymorth Ieuenctid gyda’r Belfast Hills Partnership. Mae hi a’r tîm yn cyflwyno prosiect Belfast Hills Bright Future. Maen nhw wedi bod yn y seminar ar gyfer yr holl brosiectau ar 19-20 Mehefin 2019 ac eisiau rhannu ychydig o feddyliau am y digwyddiad.
Roedd Neuadd Riddel Prifysgol Queen yn lleoliad hardd iawn ar gyfer seminar flynyddol Our Bright Future ar gyfer yr holl brosiectau. Daeth mwy na 100 o staff ac aelodau o’r Fforwm Ieuenctid o brosiectau ar hyd a lled y DU at ei gilydd i ddathlu’r cyflawniadau ac i ysbrydoli a chymell ei gilydd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Hwn oedd y tro cyntaf i seminar Our Bright Future gael ei chynnal yng Ngogledd Iwerddon ac roedd y Belfast Hills Partnership ac Ulster Wildlife yn hynod falch o groesawu ein partneriaid a dangos rhai o’n tirweddau trawiadol a’r prosiectau ymgysylltu ag ieuenctid.       
Mae bob amser yn bleser cyfarfod partneriaid Our Bright Future unwaith eto. Rydw i wedi ymwneud â phrosiect Belfast Hills Bright Future ers y dechrau, felly roedd cael y seminar yng Ngogledd Iwerddon yn teimlo fel gwahodd eich ffrindiau draw i ymweld! Mae egni ar y cyd nad ydw i erioed wedi’i brofi gydag unrhyw raglen arall sy’n cael ei chyllido; ystafell yn llawn pobl angerddol, yn arwain newid cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr ar hyd a lled y wlad gyda’i gilydd.
Fe ddechreuodd diwrnod un gyda chroeso cynnes gan Reolwr y Rhaglen, Cath Hare, a Chadeirydd Our Bright Future, Peta Foxhall, ac wedyn cafwyd cyflwyniad a diweddariad ar y Fforwm Ieuenctid gan Lydia Allen o’r National Youth Agency. Cafwyd amlinelliad gwych gan y Rheolwr Polisïau ac Ymgyrchoedd, Roberta Antonaci, o gyflawniadau Blwyddyn 3 ac wedyn cafwyd diweddariad canol tymor gan werthuswyr y rhaglen, ERS. 
Mae’r nifer aruthrol o bobl ifanc sy’n ymwneud ar y cyd â’n prosiectau ni’n anhygoel. Mae’n anodd credu bod cymaint o unigolion yn gwneud newidiadau hirhoedlog iddyn nhw eu hunain ac i’w hamgylchedd lleol.
Yn y pnawn, fe aethon ni ar y bysus ac i Fynyddoedd Belfast! Roedden ni’n falch iawn o gael dangos llecyn lleol hardd iawn, Gwarchodfa Natur Slievenacloy; glaswelltir llawn rhywogaethau yn gyforiog o flodau gwyllt a glöynnod byw. Mae’n eiddo i Ulster Wildlife ac yn cael ei reoli ganddo a dim ond ychydig funudau o ganol y ddinas mae’r llecyn hyfryd.   
Ar ôl cyflwyniad byr i’r warchodfa, fe wnaeth Ulster Wildlife a ni gyflwyno gweithgareddau ar y cyd, gan gynnwys creu pensiliau gan ddefnyddio coed Gwyddelig brodorol, adnabod blodau gwyllt, a ‘gemau’r ucheldir’ hwyliog i feithrin timau. Daeth diwrnod un i ben gyda gwledd fegan enfawr a chwis anhygoel y Cydlynydd Rhannu Dysgu Gwella, Abi Paine!
Roedd diwrnod dau yr un mor brysur. Er hynny, i mi, yr uchafbwyntiau oedd y siaradwyr gwadd – Gary Hart, Uwch Swyddog Addysg ac Ymgysylltu yn Senedd y DU, a David Small, Prif Weithredwr Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon. Cafwyd anerchiad gonest ac agored gan David am gyflwr presennol yr amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon a diweddariad ar ymgynghoriad yr Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) ar Strategaeth yr Amgylchedd. Roedd llawer o aelodau’r Fforwm Ieuenctid yn awyddus i sgwrsio gyda’r ddau siaradwr a lleisio eu barn. Roedd yn gyfle i bobl ifanc leol weld bod Gogledd Iwerddon, er nad oes ganddi unrhyw weithrediaeth rhannu pwerau ar hyn o bryd, yn dal i allu lleisio ei barn am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn lleol.       
Roedd sesiwn y prynhawn yn gyfle i unigolion o wahanol brosiectau fynd i grwpiau ffocws llai i drafod themâu perthnasol i rymuso ieuenctid a materion amgylcheddol. Trafododd ein grŵp ni gynaliadwyedd yn y gweithle. Roedd yn ddefnyddiol cyfarfod pobl o sefydliadau amrywiol, a chyfnewid syniadau gyda sawl persbectif. Roedd y grwpiau trafod o help i greu mwy o ymwybyddiaeth o’n systemau gwaith ni. Cafodd ein ffordd o feddwl am effeithiau amgylcheddol ein sefydliadau ein hunain ei herio ac roedd modd i ni ystyried atebion cynaliadwy y gallem eu rhoi ar waith yn ein gweithleoedd. Erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, roedden ni’n llawn syniadau ac ysbrydoliaeth ac yn barod am y flwyddyn nesaf o’n blaen.