Helo, Finn Jones ydw i. Rydw i’n bedair ar ddeg oed, yn dod o Ogledd Cymru ac yn rhan o brosiect Ein Glannau Gwyllt. Fe gefais i gais i ysgrifennu am fy mhrofiadau gydag Our Bright Future, er mwyn helpu pobl ifanc eraill efallai i allu cymryd rhan yn ein hymgyrch ni.
Sut i gysylltu ag ASau
Dydi llawer o bobl fy oedran i ddim yn gyfforddus yn cysylltu â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn lleol; y bobl sy’n gyfrifol am helpu eu cymuned leol. Rydw i eisiau helpu i newid hynny. Rydw i wedi bod yn y Senedd gydag Our Bright Future ac wedi siarad gydag ASau. Mae’n hawdd iawn cysylltu â’ch AS. Fe allwch chi anfon llythyr neu e-bost. Dechreuwch gyda chyflwyniad, gwneud eich pwynt yn glir a cheisio gwneud eich llythyr yn ddiddorol a hawdd ei ddarllen. I gael gwybod pwy yw eich AS lleol a dod o hyd i’w fanylion cyswllt, ewch i wefan y Senedd a dylai’r holl wybodaeth berthnasol fod ar gael yn hwylus.
Fe gefais i fy nghymell i ysgrifennu at fy AS lleol, Chris Ruane, gan fy mod i’n teimlo’n angerddol am un o dri Chais ymgyrch Our Bright Future. Rydw i’n meddwl y dylai’r Llywodraeth alluogi plant ysgol i gael awr o amser gwersi yn yr awyr agored bob dydd. Roedd Chris Ruane AS yn cytuno bod hyn yn bwysig ond dywedodd Llywodraeth Cymru mai dewis yr ysgolion yw a ydyn nhw eisiau gweithredu dysgu yn yr awyr agored ai peidio. Roedd ei ymateb yn llawn gwybodaeth ac roeddwn i’n falch o gael deall mwy. Dydych chi ddim yn mynd i gael ateb bob tro, a byth o fewn diwrnod neu ddau. Yn ôl gwefan y Senedd, os nad ydyn nhw wedi ymateb o fewn pythefnos, fe ddylech chi ystyried gwneud galwad ffôn i ddilyn y neges e-bost neu’r llythyr.   
Dweud eich stori
Nesaf, roeddwn i eisiau siarad mwy am fy ymwneud ag Our Bright Future a pham rydw i wedi mwynhau cymaint. Ers dechrau gyda’r prosiect, rydw i wedi gwneud ffrindiau da iawn a sylweddoli beth sy’n bwysig mewn bywyd. Fy mhrif nod i yw cael swydd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a dyna beth rydw i’n anelu ato. Wedi’r cyfan, os cewch chi swydd rydych chi’n ei mwynhau yn fawr, ’fydd dim un diwrnod yn teimlo fel gwaith. Rydw i wedi cael profiadau nad ydi llawer o bobl eraill wedi eu cael ac rydw i’n dal i gael y cyfleoedd yma, hyd at heddiw hyd yn oed. Heb dreulio cymaint o amser yn yr awyr agored ag ydw i, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i mor hapus ag ydw i nawr. Mae hapusrwydd yn dod o wneud pethau rydw i’n hoff iawn ohonyn nhw. I mi, mae hynny’n unrhyw beth cysylltiedig â’r awyr agored, ac rydw i eisiau ysbrydoli pobl eraill i wneud pethau yn yr awyr agored hefyd.
Gwneud gwahaniaeth 
Rydw i’n gobeithio y gwelwn ni newid ar sail beth rydw i wedi’i wneud. Rydw i’n gobeithio y gallaf i helpu i chwarae rhan mewn creu byd gwell. Efallai nid heddiw ac efallai nid yfory ond, yn y pen draw, rydw i eisiau gallu gweld bod rhywbeth pwysig wedi digwydd, gwenu, a dweud, ‘Fi wnaeth hyn’na. Fi oedd yn gyfrifol.’ Rydw i’n meddwl y dylai pawb geisio sicrhau manteision i bobl eraill, a’r byd o’u cwmpas nhw. Hyd yn oed os yw mor syml â defnyddio bag siopa ailddefnyddiadwy, lleihau ein defnydd o ddŵr neu godi sbwriel, mae’n bwysig ein bod ni’n ceisio helpu cymaint ag y gallwn ni, mewn ffyrdd bychain hyd yn oed. Dysgu mwy am fyd natur a sut i’w helpu, ac wedyn gweithredu ynghylch yr wybodaeth honno. Rydw i eisiau hybu byd hapusach a diogelach, gydag amgylchedd a hinsawdd iach. Dyna un o fy nodau mwyaf i, dod o hyd i ffordd o wneud newidiadau mawr i’r byd a gwneud iawn am beth sydd o’i le arno. Byddwch y newid rydych chi eisiau ei weld.
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan Finn? Ydych chi eisiau cysylltu â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn eich ardal leol chi i ofyn am dreulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano? Mae posib lawrlwytho neges e-bost wreiddiol Finn at ei AS yma ac mae’r llythyr mae wedi’i anfon at yr holl ysgolion uwchradd a cholegau yng Ngogledd Cymru ar gael i’w lawrlwytho yma. Mae posib defnyddio’r rhain fel templed ar gyfer eich llythyrau a’ch negeseuon e-bost chi.