Helo, Dan ydw i ac rydw i wedi bod yn gwirfoddoli fel rhan o Brosiect Growing Confidence gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig ers mis Chwefror 2017. Mae Growing Confidence yn un o’r 31 o brosiectau sy’n rhan o raglen Our Bright Future sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Fel rhan o’r gweithgareddau gwirfoddoli yma, rydw i a phobl ifanc eraill yn dysgu sgiliau cadwraeth ymarferol er budd bywyd gwyllt a byd natur Sir Amwythig o’n cwmpas ni – gan ein helpu i feithrin hyder y bydd y rhywogaethau a’r cynefinoedd maen nhw’n dibynnu arnyn nhw’n parhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydw i hefyd wedi bod mewn sawl gweithgaredd yn Preston Montford lle rydw i wedi dysgu sgiliau, gan gynnwys dal ac adnabod gwyfynnod, cwblhau ‘bioblitz’ ac adnabod fflora brodorol.
Fel rhan o fy nghyswllt i â Phrosiect Growing Confidence, fe gefais i a Laurence Kinnersley y cyfle i fod yn Gynrychiolwyr Ieuenctid y prosiect fel rhan o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae Fforwm Ieuenctid Our Bright Future yn cynnwys pobl ifanc o brosiectau ar hyd a lled y DU. Mae pob un yn gallu enwebu un neu ddau o Gynrychiolwyr Ieuenctid sy’n dod at ei gilydd i drafod materion cadwraeth, amgylcheddol a llais ieuenctid a sut i’w datrys nhw.

 

 

Fel rhan o hyn, fe wnaethon ni feddwl am dri Chais; tri newid roedden ni’n eu hawgrymu i bolisi’r Llywodraeth a sut mae pobl ifanc yn ymwneud â chymdeithas.
Cais 1 – Treulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano
Cais 2 – Cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol
Cais 3 – Y Llywodraeth, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a’r amgylchedd. 
Drwy ddatblygu’r ceisiadau yma, ein nod ni yw y bydd pobl ifanc a’r amgylchedd yn elwa’n fawr.
Drwy ymwneud â’r Fforwm Ieuenctid yma, fe wnes i a chriw bychan o bobl ifanc eraill o Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig greu ein fforwm ieuenctid lleol ein hunain o’r enw Youth for the Wild. Fel rhan o’r fforwm, rydyn ni’n cynnal cyfarfodydd trafod rhwng pobl ifanc a phanelwyr arbenigol am faterion amgylcheddol a bywyd gwyllt lleol. Ar sail y trafodaethau yma, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi’r bobl ifanc i greu’r newid maen nhw eisiau ei weld yn digwydd yn eu hardal leol.
Fe fyddwn i’n dweud bod cymryd rhan ym Mhrosiect Growing Confidence a mynd i weithgareddau yn Preston Montford wedi datblygu fy mywyd a ’nghyfleoedd i y tu hwnt i unrhyw beth fyddwn i wedi’i ddychmygu. Rydw i’n sylweddoli nawr ’mod i’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth ymarferol er budd byd natur a’r bywyd gwyllt o ’nghwmpas i – a ’fyddwn i ddim wedi datblygu hynny mewn unrhyw ffordd arall. Hefyd, mae fy ymwneud i ag eraill wedi gwella’n fawr. Ychydig amser yn ôl, ’fyddwn i ddim wedi gallu sefyll o flaen criw o bobl eraill a gwneud cyflwyniad a thrafod, ond rydw i’n gwneud hynny’n rheolaidd erbyn hyn. Mae’r sgiliau yma nid yn unig wedi fy ngalluogi i i gael cynnig gan Brifysgol Rhydychen a dilyn gyrfa yn y sector amgylcheddol, ond hefyd maen nhw wedi bod o fudd i mi ym mhob rhan o fy mywyd bob dydd. Fe fyddwn i’n annog unrhyw berson ifanc i gymryd rhan yn y prosiectau gwych yma!

 

Am Brosiect Growing Confidence  
Mae Growing Confidence (GC) yn brosiect pum mlynedd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddarganfod mwy am fywyd gwyllt a llefydd gwyllt a dysgu sgiliau’n hwyliog yn eu hamgylchedd lleol. Mae FSC Preston Montford yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig a Menter Tir Cymunedol Fordhall i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ysbrydoledig i bobl ifanc 11 i 25 oed.  Mae mwy o wybodaeth am brosiect Growing Confidence, prosiect amgylcheddol i bobl ifanc 11 i 25 oed, ar gael yn https://www.shropshirewildlifetrust.org.uk/growing-confidence