Mae argyfwng digynsail y Coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus sy’n peri pryder rhyngwladol. Mewn ychydig ddyddiau, mae ein bywydau a’n gwaith ni wedi newid yn llwyr. Rydyn ni’n croesawu mesurau Llywodraeth y DU i atal lledaeniad y feirws. Mae eu gwir angen i’n gwarchod ni i gyd, yn enwedig yr henoed a phobl fregus sydd â chyflyrau sylfaenol.
Hefyd mae wedi gwneud i ni feddwl eto am ein hymddygiad a’r ffordd rydym yn cymdeithasu, yn cysylltu â natur, yn gwirfoddoli ac yn gweithio. Yn ystod cyfnod mor heriol, mae’r rôl y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae o ran sicrhau bod cymunedau’n parhau’n wydn, yn unedig ac yn gysylltiedig â byd natur yn hanfodol bwysig, drwy gydol y pandemig ac ymhell wedi iddo ddod i ben.
Wrth gwrs, mae prosiectau gwych Our Bright Future yn chwarae eu rhan drwy gefnogi pobl ifanc i gysylltu â’i gilydd a gyda byd natur a’r amgylchedd wrth iddyn nhw barhau i arwain newid positif ar gyfer eu cymunedau a’u hamgylchedd lleol.

 

Newyddion pwysig gan ein cyllidwyr ni

Felly, mae’n galonogol bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi addo parhau i ddarparu ei gwasanaethau i ymgeiswyr, deiliaid grantiau a chymunedau ar hyd a lled y DU mor normal â phosib. Mae hyblygrwydd o’r fath, a dealltwriaeth o’r anawsterau y gall prosiectau Our Bright Future eu hwynebu yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod, yn hynod galonogol.
Darllenwch eu datganiad yma.

 

Does dim angen i fyd natur fod yn ddieithr i ni

Nid gormodiaith yw dweud ein bod ni i gyd yn dal i geisio dod o hyd i lwybr drwy’r cyfnod anodd yma. Mae llawer ohonom ni sy’n gallu yn dechrau chwilio am ffyrdd newydd o fod yn ddyfeisgar ac yn greadigol. Yma yn nhîm y rhaglen, fe fyddwn ni’n parhau i gefnogi pob prosiect. Rydyn ni yma i’ch helpu chi i feddwl am ffyrdd eraill o weithio gyda phobl ifanc a sicrhau bod pobl ifanc yn dal i chwarae rôl allweddol mewn cynllunio gweithgareddau, dylanwadu ar lunio polisïau a gweithio fel catalyddion ar gyfer creu newid.

 

Gall yr adnoddau hyn fod yn werthfawr hefyd i’w rhannu gyda phobl ifanc a gweithwyr ieuenctid:

COVID-19 – Beth yw’r feirws? Beth mae’n ei olygu?
Os hoffech chi holi rhai cwestiynau am COVID-19:

 

Cefnogaeth Gwaith Ieuenctid (y National Youth Agency, UK Youth a The Mix)
Gwefan wedi’i chynllunio i gasglu cyngor, cyfarwyddyd, cefnogaeth ac adnoddau perthnasol i weithwyr ieuenctid, pobl ifanc a sefydliadau yn ystod pandemig y COVID 19.

 

Adnoddau Ymateb i Goronafeirws (#iwill)
Gwybodaeth ac adnoddau i bobl ifanc a’r sectorau sy’n eu cefnogi gan bartneriaid ymgyrch #iwill a’u rhwydweithiau ehangach. Mae hefyd yn cynnwys negeseuon cyson am ffyrdd mae pobl ifanc yn ymateb i’r argyfwng.

 

Gwaith Ieuenctid Digidol (prosiect Erasmus+ trawsgenedlaethol)  
Mae’r wefan yma’n cynnwys arferion da, deunyddiau hyfforddi, canllawiau a chyngor doeth ar gyfer gwaith ieuenctid ar-lein.

 

Adnoddau Digidol ar gyfer y trydydd sector a’r sector ieuenctid yng Nghymru #Covid-19 (ProMO-Cymru)
Adnoddau digidol, cyngor a strategaethau i alluogi’r trydydd sector a’r sector ieuenctid (gwirfoddol ac a gynhelir) yng Nghymru i weithio’n well drwy’r defnydd o’r digidol.

 

Wrth i ni i gyd symud drwy’r cyfnod cwbl anghyffredin yma, bydd y tîm yn parhau i ddarparu gofod pwysig i brosiectau Our Bright Future rannu beth sy’n gweithio, beth sy’n aflwyddiannus a sut i addasu pethau – gyda’n gilydd fe allwn ni gyflawni ein nodau ar gyfer yr amgylchedd a’r bobl ifanc sy’n rhan o’r rhaglen a thu hwnt.

 

Yn olaf, i bob person ifanc sy’n rhan o’r prosiectau – does dim angen i’r argyfwng iechyd eich atal chi rhag bod yn rhan o fyd natur yn llwyr! Mae llawer o adnoddau a chyfleoedd cyffrous ar gael ar-lein, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u creu gan brosiectau Our Bright Future. Er enghraifft, mae Belfast Hills Partnership yn creu cyfres o fideos byrion gyda gweithgareddau amgylcheddol o’r enw #hillsathome, ac mae Myplace yn datblygu sesiynau byw rhyngweithiol.

 

Ac i arweinwyr prosiectau a thimau Our Bright Future – daliwch ati i rannu eich cwestiynau, eich amheuon, eich syniadau a’ch atebion gyda ni. Fe ddown ni o hyd i ffordd ymlaen gyda’n gilydd.

Tîm Our Bright Future