Lansiwyd Our Bright Future bedair blynedd yn ôl – rhaglen genedlaethol gwerth £33 miliwn yn buddsoddi mewn 31 o brosiectau amrywiol, gyda’r nod o ddod â’r sectorau ieuenctid ac amgylcheddol at ei gilydd.
Mae’r rhaglen yn cyllido prosiectau i wneud y canlynol:
  • grymuso pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion medrus a chyfranogol, boed drwy ddarparu achrediadau cadwraeth, addysgu am ymgyrchu a sgiliau gweithredu cymdeithasol, neu roi lle iddynt gael eu clywed am y materion amgylcheddol sy’n bwysig iddyn nhw
  • gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol, boed o gymunedau ar y cyrion, wedi’u hynysu yn gymdeithasol, ag anabledd neu broblem iechyd meddwl, neu’r rhai’n wynebu risg o ddigartrefedd
  • cefnogi pobl ifanc i fod yn gatalyddion dros newid, ar gyfer eu hamgylchedd lleol a’u cymuned, ac fel dyfodol yr economi werdd
“Mae’n dda oherwydd rydych chi’n gweld pobl ifanc eraill yn gweithredu ac yn meddwl i chi’ch hun, mae gen i syniadau am yr amgylchedd hefyd. Os fedr y person yma sefyll a dweud rhywbeth, fe alla’ i sefyll i fyny hefyd. Mae’n cael mwy a mwy o bobl i gymryd rhan.” Cyfweliad gyda chyfranogwr prosiect, 2018

 

Tu ôl i’r llenni, mae ein strategaeth Rhannu Dysgu Gwella wedi dechrau hefyd, gyda’r nod o ychwanegu gwerth a sicrhau effaith orau bosib y rhaglen drwy ddarparu llwyfan i staff y prosiect ddod at ei gilydd. Ond sut gall 31 o brosiectau ar wasgar ledled y DU, gyda channoedd o staff a phartneriaid, gadw mewn cysylltiad a dysgu oddi wrth ei gilydd?

 

Yr allwedd i ddull o weithredu Rhannu Dysgu Gwella yw amrywiaeth yr elfennau sydd ar gael gennym ni. Nid yw pawb yn gallu dod i’r digwyddiadau bob tro. Bydd rhai’n hoffi edrych ar borthol ar-lein bob hyn a hyn ac wedyn cael y newyddion diweddaraf, bydd rhai’n hoffi cyfarfod wyneb yn wyneb pan mae hynny’n bosib, a bydd eraill eisiau gwrando’n ôl ar recordiadau gweminar os ydyn nhw’n rhy brysur yn darparu gweithgareddau yn ystod y diwrnod gwaith i fynychu’n ‘fyw’. Felly rydyn ni wedi darparu amrywiaeth eang o elfennau a’u cadw’n hyblyg, gan gynnwys y canlynol:
  • gwefan i aelodau yn unig, gan weithredu fel storfa ddigidol o adnoddau, bwrdd trafod a’r newyddion diweddaraf
  • rhwydwaith cefnogi talu ffi yn cynnwys staff prosiect sy’n gallu cefnogi prosiectau eraill gyda darnau penodol o waith
  • gweminarau ar-lein rheolaidd yn rhoi sylw i themâu cyfoes neu anghenion dysgu
  • gweithdai rhanbarthol wyneb yn wyneb yn ystod y gwanwyn a’r hydref yn galluogi i brosiectau ‘lleol’ rannu syniadau
  • seminar flynyddol i bob prosiect ddechrau’r haf, gyda’r rhaglen gyfan yn dod at ei gilydd ochr yn ochr â’r Grŵp Llywio, y Panel Gwerthuso ac aelodau’r Fforwm Ieuenctid.
“Rydyn ni’n dysgu o’r rhwydwaith. Pan nad yw pethau’n mynd yn ôl y disgwyl, rydych chi’n cael gwybod am brofiad y prosiectau eraill a’u bod nhw’n profi heriau tebyg.” Rheolwr Prosiect

 

Mae’r strategaeth Rhannu Dysgu Gwella wedi parhau mor hyblyg â phosib drwy gydol y rhaglen, gan olygu ei bod yn broses barhaus o ymgynghori, adlewyrchu a gweithredu er mwyn ymateb i anghenion y portffolio a rhoi sylw i faterion.
Rydyn ni wedi gallu defnyddio’r adroddiadau prosiect chwarterol i weld pa brosiectau sydd yn y sefyllfa orau i rannu gwybodaeth am bwnc neu thema benodol – y budd o gael aelod penodol o staff yn mynd drwy bethau ac yn gwneud nodiadau am yr hyn a ddysgwyd, i fod yn ddefnyddiol i weddill y rhwydwaith efallai.

 

Dywedodd sawl rheolwr prosiect bod y cynnydd gyda ffyrdd newydd o weithio wedi bod yn gyflymach o gymharu â phrosiectau’n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ar eu pen eu hunain, gyda phrosiectau’n cael eu hysbrydoli ac yn cael hyder i roi cynnig ar bethau newydd na fyddent wedi eu rhoi ar waith fel arall efallai na gwybod am yr adroddiad gwerthuso canol tymor.

 

Yn fwy na dim, mae’r strategaeth Rhannu Dysgu Gwella wedi bod yn llwyddiant oherwydd y prosiectau eu hunain. Bydd dull o weithredu fel hyn yn gweithio os yw pawb sy’n cymryd rhan yn agored ac yn fodlon rhannu eu profiadau; cydnabod er bod gennym ni amcanion sefydliadol unigol, ein bod ni i gyd yma am yr un rheswm a gyda’r un nod yn y pen draw.
Mae staff prosiectau wedi cefnogi’r dull o weithredu gan rannu eu gwybodaeth yn agored – heriau a llwyddiannau – ac, mewn rhai achosion, maen nhw wedi creu partneriaethau ar gyfer parhau i gydweithio yn y dyfodol. Mae sawl cyfeillgarwch wedi’i ffurfio hefyd!
Gydag ychydig dros flwyddyn ar ôl, mae’n dod yn amlwg sut dylai strategaeth fel Rhannu Dysgu Gwella fod yn rhan orfodol o raglenni sy’n cael eu cyllido am dymor penodol. Gyda ffenestr mor fyr i greu effaith fawr, does dim gwell ffordd i sicrhau’r rhannu a’r dysgu gorau posib ac ychwanegu gwerth at y ddarpariaeth.
Mae wir yn anhygoel beth all pobl ei gyflawni wrth gydweithio!