Gan Jodie Holyoake

Nid gormodiaith yw dweud ei bod wedi bod yn gorwynt o flwyddyn i mi! Ar ôl graddio gyda gradd mewn Ffotograffiaeth Forol a Byd Natur a gwneud ceisiadau di-ri am swyddi yn y sector cadwraeth am sbel dda, roeddwn i ar ben fy nigon yn derbyn *yr* alwad ffôn yna’n dweud fy mod i’n mynd i fod yn Brentis gydag Your Shore Beach Rangers yn ôl ym mis Ebrill 2019.

 

Drwy gydol fy mlynyddoedd yn tynnu lluniau rhyfeddodau’r byd glas ac yn gwirfoddoli fy amser yn lleol yn fy ngrŵp morol, roeddwn i bob amser yn cael anhawster gweld SUT yn union oeddwn i’n mynd i allu troi’r angerdd yma yn yrfa. Mae’r rhan fwyaf o ’nghyfoedion i wedi wynebu’r un broblem ac nid dyma’r diwydiant hawsaf i ddechau ynddo yn sicr, yn enwedig pan rydych chi’n ifanc. Ond drwy ddyfalbarhau, ac yn llawn cymhelliant a thrwy ddod i adnabod cymuned Cernyw o ryfelwyr morol, byddai fy nghyfleoedd yn gwella ymhen amser. Ac wrth lwc i mi, fe ddaeth y cyfle hwnnw ar ffurf ymuno â Thîm Morol Ymddiriedolaeth Natur Cernyw (criw gwych o bobl a dweud y lleiaf).

 

Wrth ddechrau ar y siwrnai yma, doeddwn i ddim yn sylweddoli faint oeddwn i wedi datblygu (er bod hynny’n swnio’n gawslyd)! Mae llawer o fy rôl i fel prentis yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol, marchnata a hybu digwyddiadau, ac rydw i’n mwynhau hynny yn fawr. Ond y cyfleoedd y tu allan i fy mhrif ddyletswyddau i sydd wedi cyfrannu fwyaf at fy natblygiad personol a phroffesiynol. Fel person ifanc yn gweithio ar y prosiect yma ac yn aelod o fforwm ieuenctid Our Bright Future, rydw i wir wedi gallu gwthio fy hun y tu hwnt i beth sy’n gyfforddus i mi, wynebu heriau newydd a chael cyfoeth o wybodaeth gan y rhai o ’nghwmpas i – a’r cyfan gyda chefnogaeth fy nhîm. A dyna’n UNION pam rydw i’n teimlo bod y brentisiaeth yma’n unigryw. Er nad yw’r siwrnai wedi bod yn hawdd bob amser, rydw i wedi bod yn ddiolchgar am yr holl brofiadau rydw i wedi gallu gwneud cynnydd ohonyn nhw. Fe fyddwn i’n hoffi rhannu tri uchafbwynt o fy mhrentisiaeth gyda chi, sy’n cadarnhau faint o effaith all y prosiect yma ei chael ar berson ifanc fel fi …

 

Mynd i Belfast!
Ychydig wythnosau ar ôl dechrau fy mhrentisiaeth, gofynnwyd i mi fyddwn i’n hoffi ymuno â Jax a’n cynrychiolwyr ni ar fforwm ieuenctid Our Bright Future, Adele a Laura, yn y seminar ar gyfer y prosiect cyfan – yn Belfast, Gogledd Iwerddon eleni! Fe ddaeth y 31 o brosiectau at ei gilydd i ddathlu cyflawniadau’r rhaglen 5 mlynedd sy’n grymuso ieuenctid ac i helpu i gymell ei gilydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd yn eithriadol werthfawr dysgu mwy am y prosiectau eraill a beth oedd yn gwneud Our Bright Future mor unigryw yn gynnar yn y brentisiaeth. Roedd siarad gyda chynrychiolwyr amrywiol y fforwm ieuenctid a staff y prosiect yn ystod y deuddydd yn grêt, a hefyd y gweithgareddau gafodd eu darparu i ni gan griw Belfast Hills (does dim byd gwell na chreu eich pensil eich hun!). Ers dod adref yn ôl, rydw i wedi mwynhau cael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl brosiectau a chysylltu â’r bobl ifanc yn rhithiol, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld pawb eto fis Hydref.

 

Sgyrsiau Cynhadledd
Gyda help Cydlynydd Fforwm Ieuenctid Our Bright Future, Lydia Allen, fe gefais i gyfle gwych i siarad yng nghynhadledd A Focus on Nature – ‘Now for Nature’ – yn y Natural History Museum yn Llundain (llun ar y chwith). A Focus On Nature yw’r rhwydwaith natur i ieuenctid y DU, sy’n gweithio gyda sefydliadau partneriaeth er mwyn datblygu mudiad cadwraeth ieuenctid, ac roedd yn anodd credu ’mod i’n siarad yng nghanol pobl fel Chris Packham, Stephen Moss ac eraill o WWF-UK, y Marine Conservation Society a hyd yn oed y llywodraeth! Yn bwysicach na dim, roedd y gynhadledd yn gyfle i mi rwydweithio a chysylltu â chymaint o gadwriaethwyr ifanc, ysbrydoledig; ac rydw i dal mewn cysylltiad â rhai o’r rhain ar gyfryngau cymdeithasol heddiw.

 

Yn ôl ym mis Chwefror eleni roedd cynhadledd fawr arall – Cynhadledd flynyddol Your Shore gyda mwy na 120 yn bresennol ar y diwrnod (llun ar y dde)! Mae wastad yn un o fy hoff ddigwyddiadau i yn ystod y flwyddyn oherwydd mae’n gyfle i edrych yn ôl ar beth mae Rhwydwaith Your Shore ac Academi Beach Ranger wedi’i gyflawni a chyfarfod gyda’r rhai dydych chi prin byth yn eu gweld (hyd yn oed mewn sir fechan fel Cernyw). I goroni’r flwyddyn, fe gefais i gyflwyno ochr yn ochr â’r wardeiniaid traeth eraill, Laura Thornton a Josh Symes, sy’n parhau i fy ysbrydoli i gyda’r gwaith maen nhw’n ei wneud!

 

Cysylltu Ar-lein
Yn olaf ond nid y lleiaf, fe ddatblygais i hoffter mawr o gyfathrebu am ryfeddodau’r byd tanddwr yma yng Nghernyw, drwy fy ngwaith ar ein platfformau digidol a’n cyfryngau cymdeithasol ni. Rydw i’n teimlo ei bod yn bwysig iawn ceisio denu pobl o’r tu allan i’r ‘swigen gadwraeth’, rhag pregethu wrth y rhai sy’n deall popeth eisoes, ac annog pobl newydd i ymuno â Rhwydwaith Your Shore a’n helpu ni i warchod ein gofod glas lleol. Mae fy ngwaith i wedi cynnwys gwneud darpariaeth Instagram ar gyfer cynulleidfaoedd mawr yr Ymddiriedolaethau Natur ac Ymddiriedolaeth Natur Cernyw yn ystod yr Wythnos Forol Genedlaethol a Mis Siarcod YSBR, gan ddatblygu Map ein Wythnos Caru Eich Traeth 2020 a helpu i greu ein hymgyrch ar-lein, ‘Every Body’s A Beach Body’, ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y llynedd. Mae wedi bod yn anhygoel gweld yr adwaith i’n presenoldeb ni ar-lein (yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud) ac fe fyddwn i wrth fy modd yn parhau â’r math yma o waith yn fy ngyrfa.

 

 

Diolch i chi i gyd am ddarllen! Os byddech chi’n hoffi dod yn Brentis newydd gyda Your Shore Beach Rangers a dilyn gyrfa yn y sector cadwraeth forol yma yng Nghernyw, mae’r ceisiadau ar agor nawr tan Fehefin 22ain 2020. Gwnewch gais yma.