Gan Michelle Payne

Fy enw i yw Michelle ac rydw i’n fyfyrwraig MscRes ym Mhrifysgol Bangor yn astudio primatiaid, a fy hoff brimat yw lemwr! Rydw i hefyd yn mwynhau ysgrifennu straeon. Mae Astudio Swoleg ac MscRes yn y brifysgol wedi rhoi digon o wybodaeth i mi am gadwraeth, ond doeddwn i ddim yn hyderus wrth roi’r wybodaeth honno ar waith, a dyna pam wnes i benderfynu cofrestru ar gyfer cynllun hyfforddi wardeiniaid cadwraeth Ein Glannau Gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, i fagu fy hyder a dysgu sgiliau newydd. Roedd y cwrs yn rhoi sylw i lawer o wahanol feysydd mewn cadwraeth yng Ngogledd Cymru mewn cyfnod byr o bythefnos.
Yn ystod yr wythnos gyntaf roedden ni yn Llyn Parc Mawr ar Ynys Môn am bedwar diwrnod ac yng ngwarchodfa natur Eithinog ym Mangor am ddiwrnod. Yn Llyn Parc Mawr fe wnaethom ni ddysgu am y coetir a’i fioamrywiaeth unigryw, y dulliau cadwraeth sy’n cael eu defnyddio i warchod y safle, crefft y gwyllt, chwilio am fwyd a gwneud cysgod mewn argyfwng. Fe wnes i wir fwynhau dysgu sut i adnabod rhywogaethau o fflora a ffawna (er bod fy mhroblemau golwg yn golygu na allwn i weld llawer o’r ffawna, ond roedd gallu dechrau gweld sut i adnabod coeden oddi wrth ei dail a’i choesynnau’n anhygoel). Roedd hefyd yn ddiddorol trafod nodweddion positif a negatif rhywogaethau ymledol – er enghraifft, sut oedd sycamorwydd yn cael eu hystyried yn ymledol ar un adeg ac yn cael eu torri, ond nawr maent yn cael eu plannu fel coeden debyg i onnen sy’n cael ei dinistrio gan wywiad yr ynn ledled y DU. Fel rhan o’m hastudiaethau, dim ond effeithiau negatif rhywogaethau ymledol ydw i wedi’u trafod a chlywed amdanynt, felly fe ddysgais i lawer fel rhan o’r drafodaeth yma.
Yn Eithinog fe fuon ni’n creu gwrychoedd marw, yn dysgu am y porwyr sy’n helpu i reoli’r caeau ac yn dadwreiddio creulys, rhywogaeth o blanhigyn sy’n gallu bod yn niweidiol i lysysyddion pe bai’n mynd i mewn i’w gwair. Yn ystod yr ail wythnos roedden ni ar Ynys Tysilio ym Mhorthaethwy, yn archwilio’r pyllau creigiog ac yn cynnal gwahanol arolygon ar y lan. Fe gawsom ni fynd ag wyau siarcod adref hyd yn oed i geisio eu hadnabod. Wedyn roedden ni’n ôl yn Llyn Parc Mawr. Fe gawsom ni gymryd rhan mewn cwrs cymorth cyntaf REC (Achub Argyfwng Gofal) ac rydyn ni wedi cymhwyso mewn cymorth cyntaf nawr – sy’n teimlo’n rhyfedd iawn wrth ei ddweud. Buom yn gwneud bocsys adar hefyd ac yn ymarfer rhai o’r dulliau cadwraeth roedden ni wedi’u dysgu, fel adnabod egin-goed ifanc a dadwreiddio planhigion ymledol. Ar ddiwedd y cynllun hyfforddi, fe wnaethom greu cyfryngau digidol i’w rhannu ar YouTube Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac i gynnwys y cyhoedd yn ehangach mewn gwaith cadwraeth ac yn yr awyr agored.
Ar ôl cymryd rhan yn y cynllun hyfforddi, rwy’n teimlo ei bod yn bwysig bod mwy o bobl yn profi byd natur. Nid yw llawer o bobl yn gwybod sut i adnabod y rhywogaethau yma o goed nac yn gwybod pa blanhigion mewn coetir sy’n ddiogel i’w bwyta. Hyd yn oed wedi treulio blynyddoedd yn y brifysgol, doeddwn i ddim yn gwybod y pethau hyn. Mae’n ymddangos bod datgysylltu oddi wrth fyd natur yn digwydd a rhaid i ni ddysgu sut i ailgysylltu. Mae dysgu sut i chwilio am fwyd yn un ffordd, ond mae dim ond mynd am dro ac adnabod y pethau rydych chi’n eu gweld yn ffordd arall. Mae creu gofod gwyllt yn eich gardd yn ffordd i chi gysylltu â byd natur hyd yn oed.