Ar ôl llawer o feddwl a chynllunio gofalus, lansiodd Milestones, ochr yn ochr â Youth Action yn Sir Wilt, raglen o weithgareddau Haf ddiwedd mis Gorffennaf. Roedd yn hyfryd cael croesawu pobl ifanc yn ôl i’n gwarchodfeydd ni, hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau a’r gweithdrefnau niferus rydyn ni wedi gorfod eu rhoi yn eu lle.
Gan fod llesiant yn ffocws allweddol i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan, roedden ni’n rhoi cyfle iddyn nhw gael amser oddi cartref ac ymdeimlad o annibyniaeth, yn ogystal â chyfle i gymdeithasu a chwarae; a’r cyfan yn un o’n gwarchodfeydd natur hyfryd ni. Darparwyd amrywiaeth o weithgareddau gennym ni, yn dibynnu ar y lleoliad. Roedd y rhain yn cynnwys adeiladu cysgod, tegellau Kelly, archwilio pyllau, creu rafftiau bychain, teithiau cerdded yn y coetir, helfeydd pryfed a’r hamogau hynod boblogaidd; pwy fyddai ddim eisiau ymlacio mewn hamog mewn coetir cysgodol hardd ar ddyddiau poeth yr Haf!
Roedd y grwpiau roedden ni’n gweithio gyda nhw’n fach ac roedd hyn yn ein galluogi ni i gael yr amser, y lle a’r gallu i roi sylw i bob unigolyn. O ganlyniad, fe wnaethom addasu gemau a gweithgareddau i gynnwys pawb, gan fynd gyda llif y chwarae ym mhob grŵp. Mae cofnod da bellach am werth chwarae ym mywydau plant ac oedolion a gall cael amser i chwarae fod o fudd i iechyd corfforol a meddyliol.
Mae chwarae hefyd yn cynnig cyfle i blant ‘weithio drwy’ a gwneud synnwyr o’r byd o’u cwmpas, rhywbeth sy’n hanfodol yn ystod cyfnod y pandemig yma. Mae pob un o’n cyfranogwyr ni wedi cael profiadau gwahanol o’r cyfnod clo a’r argyfwng parhaus ac roedd yn ysbrydoledig gweld sut roedden nhw’n ymateb i fod allan ym myd natur eto. Roedd un rhiant wrth ei bodd pan ddychwelodd ei merch o ddiwrnod gyda ni ac anfonodd adborth.
“Dydi C ddim wedi stopio siarad am y diwrnod! Rydyn ni’n ei werthfawrogi yn fawr – mae hi wedi bod mor ynysig yn ddiweddar ac mae heddiw wedi dod â’r C rydw i’n ei chofio yn ôl.”
Mae parodrwydd y bobl ifanc i gymryd rhan yn y gweithgareddau ac ymgolli yn y byd naturiol o’u cwmpas yn adlewyrchu gwerth a phwysigrwydd bod y tu allan yng nghanol natur a chymdeithasu mewn amgylchedd positif. Fe aeth pob diwrnod heibio’n gyflym ac roedd pawb yn dymuno i’r amser barhau. Mae’r adborth cadarnhaol yn adlewyrchu’r angen, y gwerth a’r mwynhad:
“Mae hyn mor hyfryd, dydw i ddim eisiau mynd adref, gawn ni wersylla allan?” (cyfranogwr)
“Roeddwn i mor bryderus am ddod ond rydw i’n cael diwrnod grêt!” (cyfranogwr)
Wrth i ni adlewyrchu ar wythnosau’r Haf, rydyn ni mor falch o lwyddiant y gweithgareddau ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n grwpiau ysgol eto, gan wybod y gallwn ni greu cyfleoedd i fynd i’r afael â llesiant pobl ifanc drwy gyfnod anodd parhaus y pandemig. Mae eu lles a’u hiechyd meddwl yn yr hirdymor yn hanfodol i bob un ohonom ni.