Mae’r blog yma wedi cael ei ysgrifennu gan Ashleigh Carter, 21 oed, prentis gydag Our Bright Future sy’n teimlo’n angerddol am yr amgylchedd a chreu newid positif er lles y byd.

Efallai bod iechyd meddwl yn eiriau brawychus i rai eu clywed ond ni ddylent fod! Fe hoffwn i fyw mewn byd lle mae posib trafod iechyd meddwl yn eang, gwrando ar bobl, eu deall a chynnig cefnogaeth i bawb. Os ydych chi wedi teimlo erioed eich bod yn cael trafferth, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, rhannu problem yw’r cam cyntaf tuag at wella yn aml – peidiwch byth â dioddef yn dawel.

Rydyn ni i gyd yn gallu cael dyddiau anodd a theimlo bod popeth yn ormod. Ar ddyddiau fel hyn rydw i’n meddwl am fod yn yr awyr agored wedi fy amgylchynu gan fyd natur, sydd mor bwysig i iechyd a lles ein meddwl. Mae’n chwa o awyr iach, yn llesol i’r corff ac yn rhoi teimlad o ryddid i ni. Mae natur yn ffordd wych i ni deimlo’n rhan o gymuned. Mae rhandiroedd lleol, parciau a gofod gwyrdd yn ffordd wych o gymdeithasu gydag eraill gan gael gwared ar unigrwydd a chynyddu ein hapusrwydd.

 

Gall ymdopi gyda newid fod yn anodd, ac oherwydd y pandemig diweddar mae llawer o bobl wedi gorfod newid y ffordd maen nhw’n byw. Mae methu mynd allan a gweld ein ffrindiau a’n teulu fel rydyn ni’n dymuno wedi cael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl, yn enwedig pan nad oes golau yn y golwg ym mhen draw’r twnnel. Mae’r awyr agored wedi ein hachub ni yn y sefyllfa yma yn fy marn i. Dydw i ddim yn gallu siarad dros bawb ond yn sicr mae wedi gwneud i mi feddwl faint rydw i’n caru ac yn parchu byd natur. Mae’n gwneud i mi fod eisiau gwneud popeth sy’n bosibl i’w warchod. Roeddwn i’n treulio amser yn styc yn y tŷ yn hel atgofion am dreulio amser yn gwersylla yn ystod yr haf gyda ffrindiau a pha mor werthfawr oedd yr amser yma, ac yn gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hyn i gyd eto yn y dyfodol agos. Rhaid gwerthfawrogi natur o’n cwmpas ni lawer mwy, cloi ein ffôn a gwrando ar synau braf a hamddenol o’n cwmpas, a gadael i bob pryder ddiflannu.

 

Fe gefais i drafodaethau gwych gyda theulu a ffrindiau tebyg i mi oedd yn siarad am sut mae natur wedi effeithio ar eu lles. Dyma oedd ganddyn nhw i’w ddweud:

 

 

 

“Mae natur wedi bod yn ddihangfa i mi, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud diweddar. Roedd cael awyr iach a mynd ar deithiau cerdded hir yn gyfle i gadw’n bositif ac yn llawn cymhelliant. Does dim byd gwell na bod y tu allan yng nghanol byd natur a blodau gwyllt!” – Saffron, 22 oed

 

 

 

 

 

 

“Rydw i’n hoffi bod yn yr awyr agored a threulio amser gyda fy ffrindiau yn archwilio llefydd newydd.” – Dean, 22 oed

 

 

 

 

 

 

“Rydw i’n hoffi treulio amser ym myd natur oherwydd mae fy mhryderon i i gyd yn diflannu. Rydw i’n treulio amser yn yr awyr agored yn mynd â fy nghi am dro ac yn marchogaeth drwy’r coed ar gefn fy merlen, does dim byd gwell na hynny!” – Layla, 15 oed

 

 

 

 

 

 

“Rydw i’n caru treulio amser yn yr awyr agored, yn enwedig yng nghefn gwlad, mae’n gyfle i mi ymlacio a threulio amser gyda fy ffrindiau yng nghanol byd natur” – Robbie, 22 oed

 

 

 

 

 

“Rydw i’n mwynhau treulio amser y tu allan yn edrych ar wahanol flodau a choed, mae’n helpu i godi fy hwyliau a gwella fy hunan-barch.” – Morgan, 16 oed

 

 

 

Er bod cynnydd i gefnogi iechyd meddwl a lles ein gilydd wedi dod yn bell, mae angen gwella o hyd. Mae angen ymdrech gadarnhaol i godi ymwybyddiaeth o’r achos pwysig yma. Byd natur yw dihangfa heddychlon ein cenhedlaeth ni a dylem ei ddiogelu ar bob cyfrif, ar gyfer ‘Ein Dyfodol Disglair!’