Fedr natur helpu ein hiechyd meddwl mewn gwirionedd? Rydw i’n berson ifanc ac wedi cael trafferth gyda fy iechyd meddwl ers bod yn blentyn – rydw i’n cael anhawster gydag iselder a gorbryder yn bennaf. Rydw i wedi byw mewn tref glan môr, dinas wledig, ac un o ddinasoedd mwyaf y DU. Ers byw mewn tair ardal wahanol iawn, rydw i wedi sylwi faint mae fy iechyd meddwl wedi newid yn dibynnu ar faint o amser rydw i’n gallu ei dreulio ym myd natur.

Fodd bynnag, rydw i’n ei chael yn anodd mynd allan, ac mae’n fy ngwneud yn bryderus iawn yn aml. Er fy mod i wrth fy modd yn mynd allan a bod ym myd natur, weithiau mae’n cymryd llawer i mi fynd allan drwy’r drws, yn enwedig ar fy mhen fy hun ac yn enwedig heb bwrpas. Dyma pam y rhoddais bwrpas i mi fy hun, i dynnu lluniau a fideos o’r bywyd gwyllt roeddwn i’n mwynhau ei weld.

 

Pan oeddwn i’n byw yng Nghaerliwelydd, roedd yn llawer haws i mi fynd allan ac archwilio, roedd mannau gwyrdd naturiol a bywyd gwyllt ym mhob man. Roedd fy siwrnai ar droed i’r brifysgol yn golygu cerdded drwy barc gyda gwartheg ynddo – ar rai dyddiau, roedd rhaid i mi sefyll ar y llwybr ac aros i fuwch symud cyn y gallwn fynd heibio – roedd yn wych. Am y tro cyntaf, roeddwn i’n teimlo’n llai pryderus am fynd allan ar fy mhen fy hun. Roeddwn i wrth fy modd yn sydyn iawn, camera yn fy llaw, yn dilyn afonydd, archwilio coedwigoedd ac ymlacio mewn parciau. Roeddwn i’n berson llawer mwy hyderus o ganlyniad a rhan fawr o hynny oedd oherwydd fy mod i wrth fy modd yn byw yn rhywle wedi’i amgylchynu gan natur. Roedd natur yn fy annog i fynd allan mwy.

Rydw i bellach yn byw ym Manceinion. Symudais i ganol y ddinas a sylweddoli yn sydyn iawn gymaint yr oeddwn i’n colli cael fy amgylchynu gan natur. Dechreuais fynd yn ddigalon iawn eto ac eisiau gadael fy fflat lai a llai. Roeddwn i’n casáu pa mor wag a difywyd oedd y ddinas yn teimlo, hyd yn oed gyda phobl yn rhuthro ym mhob man, ac roeddwn i’n teimlo’n styc mewn jyngl goncrid. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor fawr fyddai effaith byw yn y ddinas, a theimlo wedi fy natgysylltu oddi wrth fyd natur, ar fy iechyd meddwl i. Fe wnes i roi’r gorau i dynnu lluniau oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl bod mwy o fywyd gwyllt i mi dynnu ei lun.

 

Roedd hynny tan un bore wrth i mi edrych allan drwy ffenest fy ystafell wely a sylwi bod dwy bioden yn byw yn yr adeilad gwag ar draws y ffordd ac fe wnaethon nhw godi fy nghalon i. Byddwn yn eu gwylio a bob dydd roedden nhw’n gwneud i mi deimlo’n hapusach. Fe gefais fy ysbrydoli gan hyn i ddod o hyd i bocedi bach o natur, pe bai hynny ond i wella fy iechyd meddwl eto.

 

Dechreuais chwilio am fywyd gwyllt ym mhob man a dod o hyd i hwyaid mewn ffynhonnau, ystlumod wrth adeiladau corfforaethol a chrëyr glas mewn afon sy’n rhedeg drwy’r ddinas. Fe wnes i ddod o hyd i las y dorlan, llygoden fawr a drudwy – roedd bywyd gwyllt ym mhob man, hyd yn oed yma. Felly, ar y dyddiau pan oeddwn i’n gweld pethau’n anodd, fe fyddwn yn ceisio llusgo fy hun allan o’r tŷ i weld beth allwn i ddod o hyd iddo. Roedd bywyd gwyllt yn gwneud ei gartref yng nghanol y ddinas yma ac roedd hynny’n gwneud i mi sylweddoli y gallwn i hefyd.

Ond mae rhai dyddiau’n anodd iawn. Dim ots pa mor hapus mae natur yn fy ngwneud i, ar rai dyddiau, alla’ i ddim perswadio fy hun i fynd allan. Ac eto, mae’r byd naturiol wedi dal ati i fy helpu i. Roedd eistedd ac edrych allan drwy’r ffenestr, gwylio coed yn gwyro yn y gwynt, yn gwneud i mi deimlo’n llai pryderus. Gweld y cymylau’n mynd heibio neu glywed yr adar yn trydar, hyd yn oed dan do, mae natur yn dal yno i godi fy nghalon i.

 

Fe wnaed yr holl archwilio yma heb ddefnydd o fy nghar, a’r rhan fwyaf heb ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Er nad yw pawb yn byw mewn ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn gyfeillgar i fywyd gwyllt, mae rhywbeth yno i’w ddarganfod bob amser. Rhan o’r hwyl yw dod o hyd iddo, a darganfod faint mae’n helpu eich lles meddyliol.