Mae’r blog yma wedi cael ei ysgrifennu gan Ashleigh, 22 oed, prentis Our Bright Future sy’n gyffrous am ddod ag arweinwyr amgylcheddol yfory at ei gilydd.

 

Rydyn ni’n sefydliad sy’n cael ei arwain gan ieuenctid ac mae arnom ni angen arweinwyr ieuenctid. Rydyn ni’n lansio cyfle anhygoel i lysgenhadon brand ifanc gynrychioli Our Bright Future yn angerddol trwy adrodd eu straeon a’u profiadau anhygoel. Ymgyrch llysgenhadon brand Our Bright Future yw’r cyfle i chi ddisgleirio a dangos eich doniau! Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond angerdd gwirioneddol dros yr amgylchedd a rhaglen Our Bright Future sydd arnoch chi ei angen. Yr ymgyrch llysgenhadon brand yw’r cyfle i chi gael eich ysbrydoli a chael hwyl gyda’ch creadigrwydd wrth hyrwyddo ac addysgu eraill am yr amgylchedd yn ogystal â’r pethau anhygoel mae rhaglen Our Bright Future wedi’u cyflawni.

Ymunwch â ni! Rydyn ni eisiau ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan i ddefnyddio eu pŵer i greu rhywbeth rhyfeddol gyda’n gilydd. Fel llysgenhadon brand byddwn yn cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, yn rhoi gwybod i’n cynulleidfa am Our Bright Future, yn rhannu’r effaith rydyn ni’n ei chreu ac yn annog eraill i gymryd rhan a gweithredu i newid y byd.

 

Sut byddwch chi’n elwa o hyn? Byddwch yn cael gweithdai hyfforddi a phecynnau adnoddau anhygoel gan yr arbenigwr cyfathrebu, Kathy, a phrentis Our Bright Future, Ashleigh, a fydd yn cynnwys hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol, dysgu am ymgyrchoedd, hyfforddiant cyfryngau a hyfforddiant blogiau. Bydd bod yn llysgennad brand yn meithrin sgiliau newydd defnyddiol ac mae’n gyflawniad gwych ac unigryw i’w ychwanegu at eich CV. Byddwn yn buddsoddi yn ein gilydd a byddwch yn cael cyfle i ehangu eich rhwydwaith a chwrdd ag unigolion ifanc tebyg i chi i rannu syniadau creadigol rhwng eich gilydd. Byddwch hefyd yn fodel rôl, gan wneud gwahaniaeth i godi ymwybyddiaeth ynghylch pam ei bod mor bwysig i bobl ifanc fod yn rhan o greu planed iachach, economi wyrddach lewyrchus, a dyfodol disglair i bopeth byw. Os ydych chi’n angerddol am yr amgylchedd, mae hwn yn gyfle gwych a gwerth chweil i dynnu sylw ato a bod yn falch ohono.

 

Felly … ewch amdani! Cymerwch ran a gweithredu nawr drwy gysylltu â’n tîm ar acarter@wildlifetrusts.org