Llun: E Lowe- Emma ger y Fenai.

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Emma, Intern Cadwraeth Forol. Pan orffennais fy ngradd meistr fis Medi diwethaf, nid oedd gennyf unrhyw syniad beth oedd yn fy wynebu yn y dyfodol. Mae’r cyfleoedd ar gyfer biolegwyr morol lefel mynediad yn gystadleuol fel mae hi, ond wrth ddod allan o gyfyngiadau symud hefyd, daeth chwilio am gyfle yn fwy heriol byth. Ar ôl ychydig fisoedd yn gwneud cais am swyddi ledled y wlad, daeth cyfle anhygoel gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Roedd pump interniaeth ar gael drwy brosiect Ein Glannau Gwyllt – prosiect sy’n annog pobl ifanc yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn gwaith amgylcheddol. Cefais fy nghyfweliad cyntaf erioed ar brynhawn dydd Sul, a hynny wyneb yn wyneb, ac ychydig ddyddiau’n ddiweddarach cefais gynnig lle Intern Ymgysylltu â Moroedd Byw.

Ar ôl astudio fy ngradd israddedig mewn Bioleg Forol a’m gradd ôl-raddedig mewn Diogelu’r Amgylchedd Morol ym Mhrifysgol Bangor, roeddwn wedi syrthio mewn cariad ag arfordir Cymru. Roeddwn mor falch o’r cyfle i weithio yng Ngogledd Cymru a helpu i ddiogelu’r amgylchedd morol drwy ledaenu ymwybyddiaeth o faterion morol i’r cyhoedd. Drwy gydol fy interniaeth gydag Ein Glannau Gwyllt, roeddwn yn gallu adeiladu ar yr wybodaeth yr oeddwn wedi dysgu yn y brifysgol a meithrin sgiliau newydd. O wella fy sgiliau adnabod infertebratau morol gydag arolygon Shoresearch a chynnal digwyddiadau glanhau traethau i roi sgyrsiau ar-lein, roedd fy mhedwar mis gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn llawn profiadau newydd cyffrous.

Llun: E Lowe. Glanhau’r Traeth ym Mhorth Neigwl, Diwrnod 2 o 12diwrnodcyn12diwrnodyNadolig

Am 12 diwrnod cyntaf mis Rhagfyr roedd y tîm Glannau Gwyllt yn cynnal digwyddiadau glanhau traethau bob dydd gydag aelodau o’r cyhoedd a gwirfoddolwyr. Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau glanhau traethau oedd codi ymwybyddiaeth o’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu dros gyfnod yr ŵyl a chafodd ei henwi’n ’12 Diwrnod cyn 12 Diwrnod y Nadolig’. Dechreuais arni ar unwaith ac roeddwn allan ar y traeth ar yr ail ddiwrnod yn arsylwi sut i gynnal digwyddiad glanhau traeth er mwyn paratoi i gynnal un fy hun.

Fy nigwyddiad cyntaf i’r cyhoedd oedd glanhau traeth ar ddiwrnod 11 y gyfres 12 Diwrnod. Y traeth a ddewisais oedd Porth Nobla ar hyd arfordir dwyreiniol Ynys Môn ger cyrchfan syrffwyr Rhosneigr. Ar yr olwg gyntaf, roedd y traeth yn edrych yn lân, ond wrth i ni gerdded ar ei hyd daeth yn amlwg y byddem yn llenwi ein bagiau’n hawdd. O beledi plastig a ffyn cotwm i glustogau soffa, roedd sbwriel ym mhobman.

Yn anffodus, ar drothwy’r flwyddyn newydd cawsom ein taro â chyfyngiadau symud eto.  Er bod hyn wedi cyflwyno anawsterau, roedd hefyd yn agor y drws i gyfleoedd a phrofiadau newydd. Gan nad oeddem yn gallu cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb, cafodd ein gweithgareddau ymgysylltu eu symud ar-lein. Gyda phŵer Zoom a ffrydio byw Facebook, fe wnaethom lwyddo i addasu i’r amgylchedd gwaith newydd hwn.

Ym mis Chwefror, cynhaliodd y tîm Glannau Gwyllt ŵyl môr ar-lein, ‘Shore-nanigans.’ Roedd hwn yn benwythnos o weithgareddau ar-lein a oedd yn cynnwys sgyrsiau a cherddoriaeth. Rhoddais fy sgwrs Zoom gyntaf ar rywogaethau goresgynnol morol i gynulleidfa o tua 60 o bobl o bob cwr o’r DU. Roedd cyflwyno’n rhithwir yn brofiad hollol wahanol o’i gymharu â rhoi sgyrsiau wyneb yn wyneb ac er fy mod yn nerfus, roedd hefyd yn hynod gyffrous gallu rhoi gwybod i gynifer o bobl am rywogaethau goresgynnol morol.

Llun: E Lowe. Cranc Llyffant yng Nghricieth, a welwyd yn ystod arolwg Shoresearch

Yn ogystal â chynnal gweithgareddau ymgysylltu, rhoddodd fy interniaeth gyfle i mi redeg fy mhrosiect fy hun. Ar ôl i wirfoddolwr gysylltu â mi yn gofyn am bresenoldeb Cranc Montagu yng Ngogledd Cymru, datblygais arolwg gwyddoniaeth i ddinasyddion i fonitro rhywogaethau crancod – Crabtastic. Nod Crabtastic oedd cael syniad o ble mae gwahanol rywogaethau o grancod i’w cael ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae cranc Montagu yn ddangosydd newid yn yr hinsawdd, a chredir bod ei ddosbarthiad yn cynyddu tua’r gogledd wrth i dymheredd y dŵr godi. Yn ogystal â datblygu arolwg, darparais sesiynau hyfforddi i wirfoddolwyr hefyd ar gyfer y fethodoleg a’r broses adnabod crancod.

Roedd fy interniaeth yn caniatáu i mi archwilio’r arfordir rwy’n ei garu gymaint a pharhau i ddatblygu fy sgiliau bioleg forol. Ers gorffen ym mis Mawrth, rwyf wedi gallu aros gyda’r Ymddiriedolaeth Natur fel Intern Cadwraeth gyda’r Ymddiriedolaethau Natur sy’n caniatáu i mi barhau i gefnogi gwaith cadwraeth forol ledled y wlad. Mae’r sgiliau a’r profiadau a gefais drwy fy interniaeth gydag Ein Glannau Gwyllt wedi fy helpu i gael fy nhroed yn y drws ar gyfer gwaith cadwraeth forol ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn y dyfodol.

Llun: E Lowe- Porth Swtan, Ynys Môn. Lle profais y methodolegau crabtastic.