Cynhaliwyd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn gynharach y mis yma, gan roi cyfle i bobl a sefydliadau ledled y byd, ac o bob cefndir, siarad am bwnc pwysig iechyd meddwl. Er bod stigma yn aml yn gysylltiedig â salwch meddwl, mae wedi bod yn galonogol gweld cymaint o sgyrsiau agored a negeseuon cefnogol yn cael eu rhannu, ynghyd â chyngor ar y pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i ofalu am ein lles meddyliol.

Fel rhywun sy’n gweithio yn y sector amgylcheddol, rydw i’n ymwybodol iawn o’r buddion aruthrol y gall treulio amser ym myd natur eu cynnig i’n hiechyd meddwl. Mae’n rhoi lle i ni ddianc rhag ein pryderon o ddydd i ddydd, yn gwella ein hwyliau ac yn ein galluogi i gael gwared ar emosiynau negyddol wrth i ni ganolbwyntio ar harddwch y byd naturiol o’n cwmpas. Gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi creu cymaint o newid o ran sut mae llawer ohonom yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd, nid yw rhoi amser i fod ym myd natur a’i werthfawrogi yn llawnach wedi bod yn bwysicach erioed.

Mae rhai ohonom, er hynny, yn wirioneddol bryderus am fyd natur a’n hamgylchedd. Efallai eich bod wedi clywed y term ‘eco bryder’ yn amlach o lawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf – ond beth ydi hyn?

Eco bryder yw poeni am yr amgylchedd a’r bygythiadau sy’n ei wynebu, yn fwyaf cyffredin efallai o ran newid yn yr hinsawdd. Mae cymaint ohonom yn poeni am y dyfodol, ac yn meddwl ym mha gyflwr fydd ein byd naturiol. A yw’n syndod, yn wyneb y rhagfynegi brawychus am effeithiau newid yn yr hinsawdd, bod pobl yn teimlo’n bryderus? Mae hyn yn arbennig o nodedig o ran pobl ifanc sy’n poeni am y newidiadau y byddant yn byw drwyddynt, o ran effeithiau ac ymdrechion i addasu i newid yn yr hinsawdd.

Mae eco bryder yn ymateb dealladwy i sefyllfa lethol ac, er nad yw’n broblem iechyd meddwl ynddi’i hun, gall waethygu problemau iechyd meddwl presennol a sbarduno llawer iawn o straen. Os ydych chi’n teimlo dan straen neu’n bryderus am newid yn yr hinsawdd, neu broblemau eraill sy’n effeithio ar y byd naturiol, rhaid i chi ddeall nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae’n gyflwr anghyfforddus i fod ynddo, ond mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i wneud y teimladau hyn o bryder yn haws eu rheoli.

 

  • Sianelu eich pryder yn weithredu ystyrlon: gallwn ni i gyd gymryd camau i helpu i atal newid yn yr hinsawdd a gwarchod natur. Edrychwch ar yr awgrymiadau

 

  • Treulio amser gyda phobl debyg: ymunwch â grŵp neu brosiect sy’n gweithredu i ddiogelu’r amgylchedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

“Fe wnaeth cwrdd â chymaint o bobl ifanc eraill sydd â chymaint o angerdd dros ddatrys y problemau yma, a dysgu am gymaint o brosiectau cymunedol ledled y byd, roi mwy o ysbrydoliaeth i mi barhau, a sicrwydd y gallai fod yn bosibl ceisio mynd i’r afael â rhywfaint ohono” – Cyfranogwr Bright Green Future.

 

Edrychwch ar ein tudalennau Prosiectau a Chyfleoedd am syniadau.

 

  • Mynd allan i’r awyr agored: mae treulio mwy o amser ym myd natur yn ffordd wych o wella’ch hwyliau. Mae mwy o wybodaeth am Gais 1, i bobl ifanc gael cyfle i dreulio mwy o amser yn dysgu yn yr awyr agored, ar gael yma.

 

  • Lleisio eich barn: gallwch chi ddweud wrth eich cynrychiolwyr gwleidyddol pa gamau rydych chi eisiau eu gweld yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu’r amgylchedd. Gwyliwch y fideo yma am sut i siarad ag AS.

Cofiwch, os ydych chi eisiau siarad am unrhyw beth sy’n eich pryderu chi ar unrhyw amser, mae pobl a fydd yn gwrando.

  • Os ydych chi dan 19 oed, gallwch ffonio 0800 1111i siarad â Childline. Ni fydd y rhif yn ymddangos ar eich bil ffôn.